Stuart Baggs
Mae un o gyn-gystadleuwyr rhaglen The Apprentice wedi cael ei ganfod yn farw ar Ynys Manaw.

Roedd Stuart Baggs yn 27 oed ac yn rhedeg cwmni Blue Wave Communications, gan ddweud yn ddiweddar ei fod yn gweithio ar brosiect i ddod a chyswllt we 4G i’r ynys.

Cafodd yr heddlu eu galw i adeilad ar y Promenâd Canolog yn Douglas am tua 9.00 o’r gloch y bore, ble cafwyd hyd i’w gorff.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y farwolaeth yn un “sydyn ac annisgwyl” ond bod dim byd i awgrymu “bod y farwolaeth yn un amheus”.

Cystadleuydd ieuengaf

Stuart Baggs oedd y cystadleuydd ieuengaf erioed i ymddangos ar The Apprentice pan gafodd ei ddewis i gymryd rhan yn 2010 yn 21 oed.

Yn y sioe deledu sydd yn cael ei dangos ar BBC One mae entrepreneuriaid uchelgeisiol yn cystadlu am swydd neu fuddsoddiad gan y dyn busnes adnabyddus, Syr Alan Sugar.

Roedd Stuart Baggs yn un o’r cystadleuwyr gyrhaeddodd cymal cyfweliadau’r rhaglen yn 2010, a gafodd ei hennill gan Stella English.

Heddiw fe dalodd Alan Sugar deyrnged iddo gan ddweud: “Newyddion ofnadwy bod Stuart Baggs wedi marw. Cydymdeimladau â’i deulu a’i ffrindiau, RIP i un o gystadleuwyr mwyaf cofiadwy The Apprentice.”