Coleg Newcastle
Mae dyn 19 oed wedi’i gael yn euog o gynllwynio i achosi cyflafan mewn coleg yn Newcastle.

Daeth yr heddlu o hyd i gyfarpar i wneud bomiau cartref a dryll llaw a bwledi yng nghartref Liam Lyburd fis Tachwedd diwethaf.

Yn Llys y Goron Newcastle, plediodd Lyburd yn euog i naw cyhuddiad o greu pum bom peipen a dwy ddyfais ffrwydrol, un cyhuddiad o fod â dryll  ac offer ffrwydrol a nwy CS yn ei feddiant.

Cafwyd Lyburd yn euog o wyth cyhuddiad o fod ag eitemau yn ei feddiant, ac o fwriadu peryglu bywydau myfyrwyr y coleg.

Roedd Lyburd wedi gwadu’r wyth cyhuddiad.

Cefndir

 

Cafodd yr heddlu wybod am y cynllwyn gan aelod o’r cyhoedd ar ôl i Lyburd, o dan yr enw Felix Burns, gyhoeddi ei fwriad i lofruddio ar y we.

Cafodd ffeiliau eu darganfod ar ei gyfrifiadur, lle’r oedd e wedi amlinellu manylion am y cynllwyn.

Daeth yr heddlu o hyd i’r cyfarpar yn ei ystafell wely.

Daeth i’r amlwg fod Lyburd wedi’i ddiarddel o’r coleg ddwy flynedd cyn iddo gael ei arestio.

Dywedodd nad oedd “amheuaeth y byddai pobol yn marw”.

Wrth i Lyburd gael ei arestio, roedd yn chwerthin ac fe ddywedodd wrth yr heddlu eu bod nhw wedi achub bywydau di-ri wrth atal cyflafan.

Roedd Lyburd wedi honni bod y cynllwyn yn ffordd o ddenu sylw, ac nad oedd yn bwriadu lladd unrhyw un.

Daeth y rheithgor i ddyfarniad unfrydol, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar Fedi 25 ar ôl asesiad seiciatryddol.