Mae chwe aelod o staff banc HSBC wedi cael eu diswyddo ar ôl ffilmio’u hunain yn cymryd arnyn nhw eu bod yn dienyddio cyd-weithiwr yn arddull eithafwyr IS  yn ystod diwrnod cydweithio ym Mirmingham.

Roedd y chwech wedi’u gwisgo mewn dillad du a mygydau mewn canolfan go-cartio pan wnaethon nhw ffilmio’r olygfa, yn ôl papur The Sun heddiw.

Mae’r ffilm gafodd ei rhoi ar y we yn dangos pump ohonyn nhw’n chwerthin wrth i gydweithiwr mewn dillad oren, sy’n cael ei alw’n Ahmed, eistedd ar ei bengliniau ar lawr.

Mae un ohonyn nhw yn dal darn o bren fel cyllell ffug tra bod un arall yn gafael ar ysgwyddau ‘Ahmed’.

Cafodd y ffilm wyth eiliad ei ffilmio gan y gweithwyr yn ystod diwrnod cydweithio ym Mirmingham a drefnwyd gan y banc, yn ôl The Sun.

Dywedodd HSBC fod y rhai sy’n gysylltiedig wedi cael eu diswyddo am fod yn rhan o’r fideo “ffiaidd”.

Dywedodd llefarydd ar ran y banc: “Dydyn ni ddim yn goddef ymddygiad amhriodol.”