Mae ditectifs sy’n ymchwilio i farwolaeth dynes ifanc yn Essex wedi cyhuddo dyn o lofruddiaeth.

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau am ffrae rhwng dyn a dynes ger safle’r Essex Horse and Pony Protection Society, yn Basildon tua 8.15yh nos Wener.

Roedd merch 21 oed wedi cael ei thrywanu nifer o weithiau. Cafodd ei chludo i’r ysbyty mewn hofrennydd ond bu farw’n ddiweddarach.

Fe fydd Jordan Taylor, 22, o Basildon, sy’n ddi-waith, yn mynd gerbron llys ynadon Basildon yfory, meddai Heddlu Essex.

Nid yw enw’r ddynes wedi cael ei gyhoeddi hyd yn hyn.