Mae dyn ifanc wedi marw, ar ôl iddo gael ei ganfod yn anymwybodol yn y môr yn dilyn damwain cwch.

Fe gafodd y dyn ei achub o Fae Osborne ger Ynys Wyth toc wedi 5yp ddoe, a hynny wedi i long hwyliau foethus wneud galwad ‘Mayday’. Fe gafodd ei gludo i’r ysbyty yn Ynys Wyth gan hofrennydd.

Cafodd dau o bobol eraill eu hachub o’r môr gan gwch hwyliau a oedd yn pasio heibio ar y pryd, a dydyn nhw ddim wedi’u hanafu’n ddifrifol.

Mae’r ddamwain wedi’i riportio i swyddogion Adran Ymchwilio i Ddamweiniau Môr, ac mae Uned Forol heddlu Hampshire hefyd yn ymchwilio i’r digwyddiad.