Paul Gascoigne
ae Paul Gascoigne wedi ennill £188,250 o iawndal am hacio ei ffôn gan Grŵp Papurau Newydd y Mirror.

Roedd y taliad i gyn pêl-droediwr Lloegr yn un o wyth a gafodd ei gyhoeddi yn yr Uchel Lys yn Llundain ar ôl gwrandawiad tair wythnos ym mis Mawrth i benderfynu faint o hacio ffonau oedd yn mynd mlaen yn y Mirror a’r Sunday Mirror a faint o iawndal yn briodol.

Fe wnaeth y barnwr, Mr Ustus Mann hefyd gyhoeddi y dylai Alan Yentob dderbyn £85,000  ac y dylai’r actorion Shobna Gulati a Lucy Taggart dderbyn £117,500 a £157,250.

Derbyniodd yr actores a dynes busnes Sadie Frost £260,250 a chafodd yr actor  Shane Richie £155,000.

Bydd yn rhaid i’r grŵp dalu cyfanswm o £1.2 miliwn o iawndal i gyd.

Yn ogystal, bydd dyfarniad y barnwr yn rhoi fframwaith ar gyfer datrys achosion sifil tebyg sydd ar y gweill ar hyn o bryd.