Victorino Chua
Mae nyrs a gafwyd yn euog o lofruddio a gwenwyno cleifion mewn ysbyty wedi cael ei ddedfrydu i oes o garchar.

Bydd rhaid i Victorino Chua, 49, sy’n wreiddiol o ynysoedd y Philipinas, dreulio o leiaf 35 mlynedd o dan glo yn ôl y barnwr.

Roedd y nyrs wedi chwistrellu inswlin i feddyginiaethau eraill wrth weithio mewn wardiau yn Ysbyty Stepping Hill yn Stockport ym mis Mehefin a Gorffennaf 2011.

Cafodd y meddyginiaethau yna eu defnyddio gan nyrsys eraill ar y ward – gan arwain at orddos o inswlin yn bennaf mewn cleifion oedrannus.

Yr achos

Yn Llys y Goron Manceinion ddoe, cafwyd Chua yn euog o lofruddio dau glaf ond yn ddieuog o lofruddio trydydd person. Roedd y rheithgor wedi bod yn ystyried eu dyfarniad am 11 diwrnod.

Roedd yr erlyniad yn honni bod Chua, sy’n dad i ddau o blant, wedi teimlo’n rhwystredig ac wedi penderfynu dial ar y cleifion.