Victorino Chua
Mae nyrs wedi ei gael yn euog o lofruddio a gwenwyno cleifion mewn ysbyty.
Roedd Victorino Chua, 49, wedi chwistrellu inswlin i feddyginiaethau eraill tra’n gweithio mewn wardiau yn Ysbyty Stepping Hill yn Stockport ym mis Mehefin a Gorffennaf 2011.
Cafodd y meddyginiaethau yna eu defnyddio gan nyrsys eraill ar y ward – gan arwain at orddos o inswlin yn bennaf mewn cleifion oedrannus.
Yn Llys y Goron Manceinion cafwyd Chua yn euog o lofruddio dau glaf ond yn ddieuog o lofruddio trydydd person. Roedd y rheithgor wedi bod yn ystyried eu dyfarniad am 11 diwrnod.
Roedd yr erlyniad yn honni bod Chua, tad i ddau o blant, wedi teimlo’n rhwystredig ac wedi penderfynu dial ar y cleifion.
Fe fydd yn cael ei ddedfrydu yfory.