Claudia Lawrence
Mae tri o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio’r gogyddes Claudia Lawrence.

Mae’r tri dyn sydd wedi cael eu harestio yn eu 50au ac yn dod o ardal Caerefrog.

Diflannodd Claudia Lawrence ar Fawrth 18, 2009.

Rhoddodd ei thad wybod i’r heddlu ei bod hi ar goll pan fethodd hi â chyrraedd ei gwaith ym Mhrifysgol Caerefrog.

Mae dyn o Gaerefrog a gafodd ei arestio fis diwethaf yn parhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Er bod y tri wedi cael eu harestio, dywed yr heddlu nad ydyn nhw wedi dod o hyd i gorff Claudia Lawrence.

Mae disgwyl i’r chwilio yn y ddinas barhau am rai diwrnodau.

Cafodd dyn 60 oed ei ryddhau’n ddi-gyhuddiad y llynedd, tra bod dyn 47 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder wedi cael ei ryddhau o’i fechnïaeth.

Rhybuddiodd Heddlu Gogledd Swydd Efrog na ddylai’r cyhoedd gyhoeddi enwau’r rhai sydd wedi cael eu harestio rhag ofn eu bod yn peryglu’r ymchwiliad.