Mae dyn 18 oed o Blackburn wedi cael ei gyhuddo o droseddau brawychol yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Manceinion.
Cafodd Ednane Mahmood ei arestio gan yr heddlu ym maes awyr Manceinion y llynedd ar ôl dychwelyd o Dwrci.
Mae’n cael ei gyhuddo o ledaenu cyhoeddiad brawychol a bod yn rhan o baratoadau ar gyfer gweithredoedd brawychol.
Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster yfory.