David Duckenfield
Mae uwch swyddog yr heddlu oedd yn gyfrifol am blismona yn ystod trychineb Hillsborough wedi dweud wrth gwest nad oedd yn credu mai ef oedd y person gorau ar gyfer y swydd.
Dywedodd y cyn-Brif Uwch-arolygydd David Duckenfield nad oedd ganddo ddigon o brofiad mewn trefnu a goruchwylio gemau pêl-droed mawr, a’i fod wedi gwneud “camgymeriad difrifol” trwy beidio â gofyn am gymorth i wneud hynny.
Cafodd wybod mai ef fyddai’n cadw trefn ar gêm gynderfynol Cwpan yr FA yn 1989 rhwng Lerpwl a Nottingham Forest, lle bu farw 96 o gefnogwyr Lerpwl, 15 diwrnod cyn iddi gael ei chynnal.
Clywodd y cwest fod David Duckenfield, sydd bellach yn 70 oed, wedi rhoi’r gorchymyn i agor y giatiau gan adael 2,000 o gefnogwyr ychwanegol i mewn i’r stadiwm ychydig funudau cyn y wasgfa.
Roedd yn wynebu tua 200 o berthnasau’r rhai fu farw wrth iddo roi tystiolaeth yn y cwest newydd yn Warrington.
“Yr hyn rwyf am ei ddweud yw… mae’n debyg nad fi oedd y person cywir ar gyfer y swydd ar y diwrnod hwnnw,” meddai.