Llys Crwner
Bydd uwch swyddog yr heddlu, oedd ar ddyletswydd yn ystod trychineb Hillsborough, yn wynebu tua 200 o berthnasau’r rhai fu farw heddiw wrth iddo roi tystiolaeth yn y cwest newydd.
Bydd y cyn Brif Uwch-arolygydd David Duckenfield yn cael ei holi am y penderfyniadau a wnaed a arweiniodd at farwolaeth 96 o gefnogwyr Lerpwl.
Cafodd y cefnogwyr eu gwasgu i farwolaeth yn ystod rownd gynderfynol Cwpan yr FA yn 1989 rhwng Lerpwl a Nottingham Forest yn y trychineb gwaethaf yn hanes y byd pêl-droed ym Mhrydain.
David Duckenfield oedd wedi rhoi’r gorchymyn i agor y giatiau gan adael 2,000 o gefnogwyr ychwanegol i mewn i’r stadiwm ychydig funudau cyn y wasgfa.
Yn dilyn y trychineb, dywedodd David Duckenfield wrth swyddogion yr FA fod y giât wedi cael ei gorfodi ar agor – a chafodd ei sylwadau eu hailadrodd dro ar ôl tro yn y wasg.
Roedd David Duckenfield wedi cymryd yr awenau fel pennaeth Hillsborough dair wythnos cyn y rownd gynderfynol.
Ofnau
Mae’r rheithgor eisoes wedi clywed mai Hillsborough oedd ei brofiad cyntaf yn rheoli digwyddiad mor fawr – gyda thorf o 54,000 – a bod y rhan fwyaf o’i brofiad plismona wedi bod mewn ymchwiliadau troseddol, yn hytrach na digwyddiadau cyhoeddus.
Funudau cyn y gic gyntaf, gofynnodd yr uwch-arolygydd Roger Marshall, oedd yn gyfrifol am adran cefnogwyr Lerpwl, i’r giatiau gael eu hagor i leddfu’r pwysau gan ei fod yn ofni y byddai “rhywun yn cael ei ladd” .
Cymerodd David Duckenfield “rai munudau” i wneud penderfyniad, ond agorodd y giatiau.
Pan agorwyd y giatiau, gwnaeth tua 2,000 o gefnogwyr eu ffordd i mewn i’r stadiwm – y rhan fwyaf tu ôl i’r goliau oedd eisoes yn llawn.
Roedd tad a mab a bachgen 10 mlwydd oed ymhlith y 96 o gefnogwyr gafodd eu lladd yn y stadiwm.
Yn syth ar ôl y trychineb, dywedodd David Duckenfield wrth swyddogion yr FA fod y gatiau wedi cael eu gorfodi ar agor.
Cafodd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol gan y cwest gwreiddiol yn 1991 ei ddiddymu ym mis Rhagfyr yn 2012.