Mae dau berson yn eu harddegau ac un dyn wedi cael eu harestio mewn dau gyrch gwrth-frawychiaeth ar wahân.

Dywedodd Heddlu Manceinion fod merch a bachgen, y ddau yn 16 oed, wedi cael eu harestio ddoe gan swyddogion o Uned Gwrth Frawychiaeth y Gogledd Orllewin ar amheuaeth o fod yn rhan o, baratoi neu achosi gweithred o frawychiaeth.

Yn ddiweddarach daeth i’r amlwg fod dyn 29 mlwydd oed o Stoke-on-Trent wedi cael ei arestio y bore ma mewn cysylltiad â sylwadau wnaed ar-lein sy’n cyfeirio at y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Yn dilyn arestio’r ddau yn eu harddegau, cafodd dau eiddo yn ardal Mossley eu harchwilio. Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod disgwyl i’r archwiliad gymryd “peth amser”.

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Caroline Ball: “Rwy’n gwybod y bydd newyddion am yr arestiadau a wnaed o dan ddeddfwriaeth brawychiaeth yn y gymuned hon yn achosi rhywfaint o bryder a bydd gan bobl gwestiynau.

“Yr hyn rwyf am ei bwysleisio yn glir iawn yw nad yw’r ymchwiliad hwn mewn unrhyw ffordd yn gysylltiedig ag unrhyw fath o gynllun rhyngwladol, a does gennym ni ddim tystiolaeth i awgrymu fod cymuned Mossley mewn perygl.”

Yn y cyfamser, mae Uned Gwrth Frawychiaeth Gorllewin Canolbarth Lloegr wedi arestio dyn yn ei gartref yn Stoke-on-Trent ar amheuaeth o annog terfysgaeth a chefnogi sefydliad gwaharddedig y bore yma.

Meddai Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr ei fod wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â sylwadau ar-lein sy’n cyfeirio at IS.