Llys y Crwner
Mae’r rheithgor yn y cwest i farwolaeth 96 o gefnogwyr pêl-droed yn Hillsborough yn 1989 wedi gweld fideo o ddigwyddiad tebyg yn y stadiwm wyth mlynedd ynghynt.

Cafodd 96 o gefnogwyr Lerpwl eu gwasgu i farwolaeth yn ystod rownd gynderfynol Cwpan yr FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest yn y trychineb gwaethaf yn hanes y byd pêl-droed ym Mhrydain.

Yn 1981, ar ddiwrnod gêm gynderfynol y gwpan rhwng Spurs a Wolves, rhuthrodd y cefnogwyr i’r cae ar ddiwedd yr ornest.

Roedd y fideo’n saith munud o hyd.

Ar ddechrau’r cwest mewn llys arbennig yn Swydd Gaer, cafodd bywgraffiadau o’r 96 o gefnogwyr eu darllen gan aelodau’r teuluoedd.

Mae’r cwest yn parhau.