Roy Harper (Llun: PA)
Mae’r canwr Roy Harper wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o gyflawni cyfres o droseddau rhyw yn erbyn plentyn yn y 70au.

Nid oedd Harper, sydd wedi perfformio gyda Pink Floyd ac wedi dylanwadu ar y band roc Led Zeppelin, wedi gorfod cyflwyno ple i’r cyhuddiadau yn y gwrandawiad byr gerbron Llys Ynadon Henffordd bore ma.

Mae Harper, o Sir Cork yng Ngweriniaeth Iwerddon, wedi ei gyhuddo o ddau achos o gael rhyw gyda merch o dan 13 oed.

Mae hefyd yn wynebu tri chyhuddiad arall o ymosod yn anweddus a phedwar cyhuddiad o anwedduster dybryd yn ymwneud a’r ferch.

Honnir bod Harper wedi cyflawni’r troseddau rhwng 1975 a 1977 yn ardal Swydd Henffordd.

Mae Harper, 72 oed, wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol a bydd yn mynd gerbron Llys y Goron Caerwrangon ar 2 Rhagfyr.