Ian Brady
Mae’r llofrudd Ian Brady wedi cyfaddef heddiw ei fod yn siarad gyda’i hun yn ei gell.
Bu llofrudd y Moors yn siarad yn gyhoeddus heddiw am y tro cyntaf ers iddo gael ei garcharu am oes ym 1966.
Mae Brady, sy’n 75 oed, yn ymddangos mewn tribiwnlys iechyd meddwl sy’n ystyried ei gais i gael ei symud o Ysbyty Ashworth, sydd â diogelwch llym, i garchar arferol.
Yn ôl ei gyfreithwyr mae ganddo salwch sy’n effeithio ar ei bersonoliaeth ond nid yw’n dioddef o salwch meddwl, a gallai gael ei drin mewn carchar yn hytrach nag ysbyty.
Ond mae swyddogion yn Ashworth yn dadlau bod Brady yn parhau i ddioddef o salwch meddwl difrifol a’i fod yn sgitsoffrenig ac angen gofal 24 awr y dydd.
Pan ofynnwyd i Brady sut y gallai esbonio cyfnodau o rith-weld pethau a siarad gyda’i hun, dywedodd ei fod wedi cofio darnau maith o Shakespeare a Plato pan oedd yn cael ei gadw ar ei ben ei hun yn ei gell am gyfnod a’i fod yn adrodd y rheiny iddo’i hun wrth gerdded i fyny ac i lawr yn ei gell.
Ychwanegodd wedyn: “Pwy sydd ddim yn siarad gyda’u hunain? Dyna gwestiwn mae pobl yn anaml yn ei ofyn.”
Mae Brady, a gafwyd yn euog o lofruddio tri o blant, yn honni nad yw bellach yn dioddef o salwch meddwl ac y dylai dreulio gweddill ei ddedfryd yn y carchar.