Mae dynes wedi marw a phump o bobl wedi eu hanafu ar ôl tân  mewn tŷ yn Birmingham yn ystod oriau mân  y bore.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tŷ yn Heol Cateswell yn Springfield, Birmingham tua 5yb bore ma.

Bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle ac mae merch yn ei harddegau yn ddifrifol wael  yn yr ysbyty ar ôl cael llosgiadau i 70% o’i chorff.

Mae Heddlu West Midlands yn cynnal ymchwiliad i achos y tân .