Castell Caerdydd, lleoliad Ffair Tafwyl
Mae pryderon ariannol gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd wedi cilio ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddan nhw’n rhoi £20,000 i’r digwyddiad.

Roedd yna bryder na fyddai’r digwyddiad yn cael ei gynnal yr haf yma ar ôl i Gyngor Caerdydd benderfynu peidio rhoi nawdd i’r ŵyl, sy’n cael ei threfnu gan Fenter Caerdydd, o achos toriadau gwariant.

Ond cyhoeddodd y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg yn y Llywodraeth, Leighton Andrews, ei fod am ymateb yn gyflym er mwyn sicrhau dyfodol y digwyddiad.

“Mae hwn yn achos unigryw,” meddai

“Mae’r ŵyl ddiwylliannol bwysig hon wedi ehangu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers ei lansio yn 2006, ac mae’n hynod werthfawr i hyrwyddo’r Gymraeg.  Mae posibilrwydd y bydd yn ddigwyddiad cenedlaethol yn ein prifddinas.

“Dwi’n sylweddoli bod trafodaethau Caerdydd ynghylch y gyllideb yn parhau.  Ond dwi wedi ymateb nawr i wneud yn siŵr nad oes cyfnod hir o ansicrwydd i drefnwyr yr Ŵyl, neu i’r rhai hynny y tu allan i’r brifddinas a oedd yn bwriadu teithio i’r Tafwyl.  Roedd 10% o’r rhai a oedd yn bresennol y llynedd o’r tu allan i Gaerdydd.

“Dwi wedi dod i’r penderfyniad hwn yn dilyn trafodaethau gydag aelod Cabinet Caerdydd dros Ddiwylliant, y Cynghorydd Huw Thomas, oedd dwi’n gwybod yn gweithio’n galed i ddod o hyd i ddyfodol cynaliadwy i ddathliad Tafwyl.

“Gan fod yr ansicrwydd ynghylch 2013 wedi dod i ben bellach, gall y trafodaethau ganolbwyntio nawr ar sut y bydd y digwyddiad yn datblygu yn y dyfodol,” meddai.

Sêr byd y campau

Roedd rhai o sêr byd y campau’n bresennol yn Tafwyl y llynedd, gan gynnwys rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman a chanolwr Cymru, Jamie Roberts.

Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr Menter Caerdyddm fodTafwyl yn “enghraifft o brosiect llwyddiannus sydd wedi tyfu drwy ewyllys pobol Caerdydd a 56 o sefydliadau a mudiadau sydd wedi cefnogi’r ŵyl.”

“Yn dilyn y newyddion am doriadau 100% gan Gyngor Caerdydd tuag at Tafwyl yr wythnos diwethaf rydym yn ddiolchgar erbyn heddiw fod y Gwenidog Leighton Andrews wedi camu fewn a chynnig yr £20,000 fydd nawr yn sicrhau dyfodol yr ŵyl ar ei ffurf bresennol.

“Mae sicrhau cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg tu allan i oriau ysgol a gwaith yn hanfodol i barhad yr iaith Gymraeg,” meddai.

Roedd penderfyniad Cyngor Caerdydd i dorri nawdd Tafwyl wedi ennyn ymateb chwyrn.  Dywedodd y gyflwynraig deledu, Angharad Mair, fod cynlluniau Cyngor Caerdydd i dorri’r nawdd gŵyl yn “drychineb llwyr” a dywedodd Cynghorydd y Tyllgoed, Neil McEvoy fod y penderfyniad yn “ymosodiad ar y Gymraeg”.

‘Newyddion gwych’

Mae arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd, Heather Joyce wedi croesawu cyhoeddiad Leighton Andrews.

Dywedodd: “Mae hyn yn newyddion gwych, i Gaerdydd ac i’r Gymraeg.

“Tra bod Plaid Cymru yng Nghaerdydd wedi gweiddi a phwyntio bys o’r ymylon, mae fy nghabinet wedi bod mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Lafur Cymru, gan geisio diogelu’r cyfraniad gwerthfawr y mae Tafwyl yn ei wneud i ddatblygiad y Gymraeg.”

Ychwanegodd AC Llafur De Caerdydd a Phenarth, Vaughan Gething: “Rwy wrth fy modd fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyhoeddi’r grant hwn a fydd yn sicrhau bod yr ŵyl yn mynd yn ei blaen eleni.

“Mae Tafwyl yn seremoni ddiwylliannol bwysig sy’n chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo’r Gymraeg yn ein prifddinas.

“Rwy’n gwybod fod Aelod Cabinet dros Ddiwylliant ar Gyngor Caerdydd, Huw Thomas, yn gweithio’n galed iawn i sicrhau dyfodol hirdymor Tafwyl, a bydd yr arian hwn yn hwb i’w groesawu.”