Yr hysbyseb gan Gymdeithas yr Iaith
Mae cefnogwyr Cymdeithas yr Iaith wedi defnyddio hysbyseb mewn papurau newydd i alw ar Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones i gydnabod bod argyfwng yn yr iaith Gymraeg.

Daw’r hysbysebion, sydd yn y Western Mail, y Daily Post ac ar Golwg360, ar ddiwrnod pwysig i’r Gymdeithas, wrth iddyn nhw gwrdd â’r Prif Weinidog i drafod eu pryderon am ostyngiad yn nifer y cymunedau Cymraeg.

Mae’r hysbysebion yn galw ar Carwyn Jones i newid polisïau a gweithredu ar ofynion y Gymdeithas yn ei ‘Maniffesto Byw’, a hynny erbyn diwedd y flwyddyn.  Mae’r maniffesto yn cyflwyno 26 o argymhellion ar gyfer cryfhau’r Gymraeg, gan gynnwys mynd i’r afael a her allfudo a mewnfudo, newidiadau i’r system addysg yng Nghymru, a chynyddu buddsoddiad yn yr iaith.

Mae’r Gymdeithas wedi cynnal sawl rali ledled y wlad yn yr wythnosau diwethaf i godi ymwybyddiaeth am ganlyniadau gwael y Cyfrifiad, a nawr maen nhw’n gobeithio datgan y neges yma i’r Prif Weinidog.

“Rydyn ni’n gobeithio’n fawr y bydd y Prif Weinidog yn ymateb yn gadarnhaol i’r syniadau sydd gennym i gynyddu nifer siaradwyr y Gymraeg a’i chymunedau.

“Byddwn ni’n galw arno i gydnabod bod argyfwng yn wynebu’r Gymraeg a gweithredu ar yr argymhellion yn ein maniffesto byw,” meddai Robin Farrar, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac un o’r rhai fydd yn cwrdd â Carwyn Jones heddiw.

“Yn ein maniffesto byw, rydyn ni’n amlinellu sawl cam cwbl ymarferol y gallai – ac y dylai – Llywodraeth Cymru ac eraill eu cymryd eleni i gryfhau sefyllfa’r iaith. Ein gweledigaeth yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg; a sicrhau cryfder cymunedau Cymraeg yw’r unig ffordd o wireddu’r weledigaeth honno.” Meddai Farrar.