Mae Cynulliad Cymru wedi lleisio pryder am gynlluniau Trinity Mirror  i gael gwared a swyddi.

Mewn llythyr at Trinity Mirror gofynnodd Llywydd y Cynulliad am sicrwydd na fyddai’r toriadau yn gwanhau’r sylw sy’n cael ei roi i’r Cynulliad yn benodol, a newyddion a chwaraeon Cymru yn gyffredinol, ar draws eu teitlau Cymraeg.

Mae Trinity Mirror am ganoli adnoddau a chael gwared a 16 o swyddi o fewn Media Wales, sy’n cyhoeddi’r Western Mail, South Wales Echo a’r Wales On Sunday, yn ne Cymru, a 4 swydd yn y Daily Post yn y gogledd wrth i bwyslais y cwmni symud o’r wasg brint i’r wasg ddigidol.

Roedd y llythyr wedi’i ddyddio 30 Ionawr – ddiwrnod ar ôl i Trinity Mirror gyhoeddi ei gynlluniau – ac aeth ymlaen i ddweud ei bod hi’n siom bod mwy o swyddi golygyddol yn cael eu colli yng Nghymru ond bod y cyhoeddiad gan y cwmni i rannu rhagor o gynnwys rhwng y teitlau rhanbarthol yn achosi pryder pellach.

Roedd y llythyr hefyd yn gofyn am sicrwydd y bydd papurau Cymraeg yn cael yr adnoddau angenrheidiol i adrodd ar y polisïau gwahanol rhwng Cymru a Lloegr.

Ymateb Trinty Mirror

Mewn ymateb, dywedodd Neil Benson, Cyfarwyddwr Golygyddol Rhanbarthol Trinity Mirror ei fod yn deall y pryderon ond na fydd y newidiadau yn effeithio’r sylw fydd yn cael ei roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu ansawdd newyddion Cymru a gwasanaeth chwaraeon y papurau.

Dywedodd hefyd ei bod hi wastad yn siom pan mae swyddi yn cael eu colli ond bod y sefyllfa economaidd wedi effeithio ar y diwydiant papur newydd a’i fod yn hyderus y byddai’r newidiadau yn eu caniatáu i gynnig gwasanaeth ardderchog mewn print tra’n ehangu’r gwasanaeth ar blatfformau digidol.

Barn Undeb Newyddiadurwyr

Heddiw, dywedodd Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) na fydd materion sydd o bwys i bobol gogledd Cymru yn cael eu hadrodd os bydd Trinity Mirror yn parhau gyda chynllun i dorri swyddi.

Dywedodd yr Undeb hefyd eu bod nhw wedi derbyn negeseuon o gefnogaeth ar draws y pleidiau gwleidyddol yn y gogledd, gan gynnwys  Janet Finch-Saunders AC o’r Ceidwadwyr, Albert Owen AS o Lafur, a Llŷr Huws Gruffydd AC o Blaid Cymru.