Julian Ruck
Mae awdur o Sir Gaerfyrddin wedi gwneud cŵyn i’r heddlu ar ôl derbyn “llwyth o enllibion gan eithafwyr Cymraeg.”

Mae Julian Ruck o Gydweli yn dweud iddo fod yn destun ymosodiadau geiriol ers dwy flynedd gan bobol sy’n gwrthwynebu ei sylwadau am roi nawdd cyhoeddus i’r iaith Gymraeg.

Dywedodd wrth Golwg360 ei fod wedi cael digon pan gafodd blog ffug, oedd yn dynwared ei flog go iawn yntau, ei osod ar y we. Cafodd negeseuon eu hysgrifennu oedd yn ei fygwth, meddai.

“Rwy’n berson cyhoeddus ac yn gallu derbyn beirniadaeth ond mae bygythiadau yn fy erbyn i yn mynd yn rhy bell,” meddai.

Mae Sarjant Heulwen Aston o Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn cŵyn.

“Rydym ni wedi derbyn cŵyn o aflonyddu ar berson ac mae plismon yn gwneud ymholiadau i’r mater,” meddai.

‘Cymru wedi newid’

“Nid yr un Gymru yw hon â’r un y cefais i fy magu ynddi,” meddai Julian Ruck, sy’n golofnydd ym mhapur y Llanelli Star, ac a fu’n byw yn Lloegr am 30 mlynedd.

“Ers datganoli mae eithafiaeth Gymreig wedi cynyddu ac mae’n lladd Cymru a’i heconomi.

“Nid oes problem gen i gyda hyrwyddo’r Gymraeg, a’i chadw hi, ond mae mynnu bod rhaid i chi ei siarad hi cyn cael gweithio yng Nghymru yn gusan farwol i Gymru.

“Os oes rhaid ichi ddefnyddio’r llyfr statud yna rydych chi wedi colli’r rhyfel,” meddai.

“Mae llawer o fy ffrindiau yn siaradwyr Cymraeg pybyr ond dydyn nhw ddim yn Hitleraidd am y peth.

“Fy nghyngor i yw edrychwch ymlaen, nid i’r gorffennol, a stopiwch yr obsesu yma gyda’r Mabinogion ac Owain Glyndŵr.

“Mae pobol eisiau swyddi ac mae’r byd yn symud yn ei flaen.”