Angharad Mair
Dywedodd y gyflwynraig deledu, Angharad Mair, bod cynlluniau Cyngor Caerdydd i dorri’r holl nawdd i ŵyl Tafwyl yn “drychineb llwyr”.

Roedd hi’n un o’r siaradwyr mewn cyfarfod cyhoeddus a alwyd gan Fenter Caerdydd, sefydlwyr yr ŵyl, lle’r honnodd un o gynghorwyr Plaid Cymru fod Cyngor Llafur y brifddinas yn euog o “hiliaeth ieithyddol”.

Ddydd Gwener fe argymhellodd  Cyngor Caerdydd roi terfyn ar y nawdd – os bydd hynny’n cael ei gymeradwyo, fe fyddai’n golygu colled incwm o £20,000 i Tafwyl.

Cafodd yr ŵyl ei sefydlu yn 2006 ac, yn ôl y Fenter, roedd mwy na 10,000 o bobol wedi mynd iddi yng Nghastell Caerdydd llynedd.

Dros gant yn bresennol

Roedd mwy na 100 o bobol yn y cyfarfod cyhoeddus yn nhafarn y Mochyn Du yn y brifddinas, i ddangos eu cefnogaeth.

Aeth Angharad Mair ymlaen i ddweud bod Tafwyl wedi dangos i drigolion y ddinas bod y Gymraeg yn “iaith fyw” a bod angen ei hachub i sicrhau ei bod hi’n “ffynnu” y tu allan i ysgolion.

Dywedodd prif weithredwr Menter Cardydd, Sian Lewis, nad oedd y Fenter wedi derbyn unrhyw awgrym bod y toriadau ar fin digwydd a bod y gwaith trefnu ar gyfer Tafwyl 2013 eisoes wedi dechrau.

Roedd rhai o gynghorwyr cyngor Cardydd hefyd yn y cyfarfod. Dywedodd y cynghorydd Neil MacEvoy o Blaid Cymru  bod y Grŵp Llafur yn y cyngor yn “wrth-Gymreig” ac yn euog o “hiliaeth ieithyddol”.

Amser i wrando

Mewn neges i’r cyfarfod, fe ddywedodd Huw Thomas, yr Aelod Cabinet ar Gyngor Caerdydd sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg, fod cyfleusterau a mudiadau ar draws y ddinas yn wynebu toriadau a bod amser eto i “sgrwtineiddio’r” cynigion a “gwrando ar bryderon y cyhoedd” cyn iddyn nhw fynd o flaen cyfarfod llawn y cyngor.

Ychwanegodd ei fod yn credu y gall Tafwyl gael ei chynnal eto yng Nghastell Caerdydd gydag ychydig o “feddwl creadigol.”

Mae’r Cyngor wedi datgan yn barod mai gwarchod addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol rhag toriadau yw’r flaenoriaeth.

Nid cefnogwyr Tafwyl yn unig sy’n gwrthwynebu’r toriadau arfaethedig. Nos yfory, bydd cyfarfod cyhoeddus arall yng Nghlwb Cameo ym Mhontcanna i drafod cynlluniau’r cyngor i dorri’r holl nawdd i Ysgol Farchogaeth Pontcanna.