Y brotest yn 1963
Bydd sioe theatrig aml-gyfrwng yn cael ei chynnal ar strydoedd Aberystwyth heddiw fel rhan o’r digwyddiadau i nodi 50 mlynedd ers y gwrthdystiad ar bont Trefechan yn y dref.

Ar Chwefror 2, 1963 y daeth y protestwyr cynta’ i weithredu er mwyn trio sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg, wrth osod posteri dros swyddfa’r post a meddiannu Pont Trefechan ar gyrion Aberystwyth.

Y weithred yma sbardunodd ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith ac fe ddaeth 500 ynghyd yn yr union le ddoe er mwyn ail-greu’r brotest gyntaf.

Roedd rhai o’r protestwyr gwreiddiol yn y rali a dywedodd cadeirydd presennol y mudiad, Robin Farrer bod yr angen i weithredu yr un mor bwysig hediw ac yr oedd hanner canrif yn ôl.

“Mae’n rhaid i ni ddal i weithredu heddiw,” meddai, “ er mwyn sicrhau mai iaith gymunedol fyw fydd y Gymraeg, ac nid iaith symbolaidd ar gyfer lleiafrif.”

Pob tocyn wedi ei werthu

Y Theatr Genedlaethol sy’n gyfrifol am y sioe  ac mae’r 500 tocyn oedd ar gael wedi hen werthu ond bydd modd dilyn y digwyddiadau ar flogiau’r cynhyrchiad a hefyd ar Twitter, @YBont2013 a Facebook. Fe fydd ffilm o’r cynhyrchiad yn cael ei dangos ar S4C cyn bo hir.

Mae’r ymgyrchydd iaith a’r llenor Angharad Tomos yn un o’r rhai fy’n gyfrifol am baratoi’r sgript sy’n clymu gyda chyfweliadau go iawn efo protestwyr a llygad-dystion ar y pryd.

Mewn cyfweliad yng nghylchgrawn Golwg, dywedodd ei bod yn croesawu popeth gwleidyddol.

“Unrhyw ddarn o gelfyddyd sy’n sbarduno pobl i feddwl yn wleidyddol, dwi’n meddwl ei fod o’n gyfraniad.”

“Efallai  bod rhai yn meddwl – ‘fedra’i ddim gwneud dim byd – dim ond person cyffredin ydw’i. Pobl gyffredin oedd y rheina ar y bont, yn gwneud hanes.”

Cyfarfod Carwyn Jones

Fe fydd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod Prif Weinidog Cymru,  Carwyn Jones AC ddydd Mercher nesaf.

Dyweododd Robin Farrer mai nod y cyfarfod oedd “er mwyn rhoi pwysau arno i gydnabod yr argyfwng, a gweithredu er mwyn sicrhau bod dyfodol cynaliadwy i’r iaith.”