Leanne Wood
Mae Plaid Cymru wedi lansio ymgynghoriad blwyddyn o hyd am ddyfodol yr iaith Gymraeg heddiw.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn y ffigyrau cyfrifiad lleol gafodd eu cyhoeddi ddoe a oedd yn dangos bod gostyngiad wedi bod yn nifer y llefydd lle mae dros hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg.

Heddiw, mae’r Blaid yn agor tudalen ar eu gwefan fydd ar agor am flwyddyn ac maen nhw’n gwahodd y cyhoedd a sefydliadau i gyfrannu at y ddadl.

Byddan nhw hefyd yn cynnal deg o gyfarfodydd cyhoeddus yn ystod y flwyddyn i holi barn y cyhoedd am ddyfodol polisïau’r Blaid ynglŷn â’r iaith.

‘Gweithredu radical’

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: ““Yr hyn a ddangosodd ffigyrau’r cyfrifiad i ni oedd, ar waethaf camau cadarnhaol ac ewyllys da, mai parhau i wanhau y mae’r Gymraeg.

“Gweithredu radical a phellgyrhaeddol yn unig fydd yn gwrthdroi’r duedd hon, a dyna pam fod arnom angen cynllun clir i’w weithredu pan fydd Plaid Cymru yn ffurfio llywodraeth Cymru.”

Dywedodd cyn brif weithredwr Bwrdd yr Iaith ar y Post Cynta ar Radio Cymru bore ‘ma bod angen gwario mwy ar yr iaith Gymraeg er mwyn ei hachub hi.

“Mae’r sefyllfa’n eitha clir, beth sy’n rhaid i ni wneud,” meddai Meirion Prys Jones.

“Mae angen dau beth. Mae angen i’r Llywodraeth fynd i’r afael â’r sefyllfa yma a’i yrru e ‘mlaen. Ac yn ail, mae angen buddsoddi.”