Mae archfarchnad Asda wedi cadarnhau na fydd yn ail-afael mewn cytundeb i brynu ŵyn gan ffatri ar Ynys Môn.

Mae undebau wedi beio penderfyniad yr archfarchnad i ddod â chytundeb i ben fel y prif reswm pam fod lladd-dy Welsh Country Foods yn y Gaerwen yn cau.

Mae Asda wedi dweud y bydd yn parhau i brynu ŵyn o Gymru, ond o ladd-dy cwmni Dunbia yn Llanybydder yn nyffryn Teifi.

Ergyd

Mae Llywydd NFU Cymru, Ed Bailey, wedi disgrifio’r penderfyniad i beidio prynu gan Welsh Country Foods fel “siom fawr.”

“Ysgrifennodd NFU Cymru at Asda i danlinellu pwysigrwydd eu perthynas nhw gyda Welsh Country Foods i’r economi leol, y gweithlu o 350 a chyflenwyr ŵyn Gogledd Cymru,” meddai.

“Mae’n ergyd fod Asda wedi cadarnhau eu bod nhw’n dod â’r berthynas i ben, er i Welsh Country Foods herio’r penderfyniad.”

Dywedodd ei fod yn mynd i gwrdd â’r dirprwy Weinidog Amaeth Alun Davies, a’r Aelod Cynulliad lleol Ieuan Wyn Jones, yr wythnos hon er mwyn trafod dyfodol y safle.

Mae’r lladd-dy yn y Gaerwen yn prosesu 640,000 o ŵyn bob blwyddyn ac eisoes mae Hybu Cig Cymru wedi dweud y byddai cau lladd-dy mawr olaf gogledd Cymru yn “ergyd drom i’r holl ddiwydiant bwyd ac amaeth yng Nghymru.”

Ym mis Tachwedd roedd Vion, sydd â phencadlys yn yr Iseldiroedd, wedi dweud ei fod am werthu ei fusnesau ym Mhrydain er mwyn canolbwyntio ar y farchnad graidd yn yr Iseldiroedd a’r Almaen.