Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws wedi dweud bod ffigurau’r Cyfrifiad a gafodd eu cyhoeddi heddiw yn “tanlinellu’r her i weithredu”.
Mewn datganiad, dywedodd Meri Huws ei bod yn bwriadu sefydlu Arsyllfa “i graffu ar oblygiadau polisïau a chynlluniau sy’n effeithio ar gymunedau a siaradwyr Cymraeg”.
Mae disgwyl iddi roi sylw yn benodol i bolisïau economaidd, gwaith a thai, yn ogystal â chynaladwyedd ieithyddol.
Dechreuodd y gwaith o baratoi’r Arsyllfa eisoes, gyda thîm o bobl wedi ei greu i osod dull o weithredu.
Y Comisiynydd fydd yn arwain yr Arsyllfa, a bydd hi’n cydweithio ag arbenigwyr yn yr amryw feysydd dan sylw.
Dywedodd Meri Huws: “Nod yr Arsyllfa yw datblygu canllawiau ac argymhellion i’w cyflwyno i wneuthurwyr polisi fel y gallant weithredu’n gadarnhaol ac ymarferol mewn perthynas â’r Gymraeg.
“Bydd yr opsiynau polisi y byddwn yn eu cyflwyno yn rhai strategol a radical, a byddant wedi eu selio ar drafodaeth ddinesig agored a thystiolaeth gadarn.
“Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn tynnu ynghyd yr wybodaeth ac ymchwil sydd eisoes ar gael, ac yn gweithio tuag at gynhyrchu a chomisiynu rhagor o ymchwil yn y maes.
“Byddwn yn edrych ar enghreifftiau o wledydd tramor ac yn cywain barn arbenigwyr mewn amrywiol feysydd.”
‘Angen sefydlu Arolygiaeth Cynllunio’
Yn y cyfamser mae Dyfodol i’r Iaith wedi dweud bod angen sefydlu Arolygiaeth Cynllunio ar wahân i Gymru fel cam i warchod y Gymraeg mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg.
Dywedodd Llywydd y mudiad iaith, Bethan Jones Parry: “Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am sefydlu Arolygiaeth Cynllunio Annibynnol i Gymru. Bydd angen i wleidyddion y Cynulliad ystyried hyn ar frys fel na fydd ymdrechion ieithyddol y deng mlynedd nesaf yn cael eu chwalu gan benderfyniadau cynllunio ac economaidd niweidiol.”
Ychwanegodd: “Bellach mae’n amlwg bod angen i’r Gymraeg fod yn rhan annatod o gynllunio economaidd ac o gynllunio tai. Mae angen i gynlluniau datblygu tai roi blaenoriaeth i effaith datblygiadau ar y Gymraeg.
“Ar hyn o bryd un corff arolygu cynllunio sydd rhwng Cymru a Lloegr. Felly mae’r cynllunio’n cael ei wneud am anghenion tai Cymru a Lloegr ar y cyd. Hyn sy’n gyfrifol am y nifer annerbyniol o uchel o dai sydd ym mhob Cynllun Datblygu Unedol.
“Mae Cymru i bob pwrpas yn cael ei datblygu fel Maes Datblygu i Loegr.”
Ychwanegodd: “Mae llu o ffactorau’n gyfrifol am ddirywiad y Gymraeg mewn rhannau helaeth o’r wlad, gan gynnwys methiant Cymry i drosglwyddo’r iaith i’w plant. Ond mae ffactorau economaidd a chynllunio gwael yn gallu tanseilio’r ymdrechion gorau i warchod yr iaith.”