Mae ’na ostyngiad wedi bod yn nifer y llefydd lle mae dros hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg, yn ôl  ffigurau diweddaraf Cyfrifiad 2011.

Dim ond 49 ward yng Nghymru sydd â mwy na 70% o’i phoblogaeth yn siarad Cymraeg, yn ôl ffigurau manwl  a gafodd eu cyhoeddi heddiw.

Yn y gogledd y mae pob un o’r wardiau hyn.

Mae’r rhan fwyaf yng Ngwynedd ac Ynys Môn, ac un yng Nghonwy.

Bellach, does dim un ardal yn Sir Gaerfyrddin lle mae mwy na 70% yn gallu siarad yr iaith.

Dim ond mewn 157 o wardiau y mae mwy na hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg, o’i gymharu â 192 yn 2001.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn debygol o achosi pryder yn Sir Gaerfyrddin, lle’r oedd pump o wardiau â phoblogaeth o fwy na 70% yn siarad Cymraeg yn 2001.

Dwy o’r ardaloedd yn y sir honno lle cafwyd y gostyngiad mwyaf yw Pontyberem a Phen-y-groes.

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi dweud ei bod hi a’i phlaid yn bryderus am ddyfodol y Gymraeg yn dilyn cyhoeddi’r ystadegau diweddaraf.

Galw am drafodaeth genedlaethol

Mae Leanne Wood wedi bod yn ymateb i’r ystadegau yn y Senedd y prynhawn yma, lle mae disgwyl iddi alw am drafodaeth genedlaethol ar ddyfodol yr iaith yn ei chadarnleoedd.

Dywedodd: “Mae’r ffigurau heddiw yn dangos colled o ran siaradwyr Cymraeg ar lefel gymunedol yn y Fro Gymraeg.

“Mae hyn i’w weld yn arbennig mewn trefi megis Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin ac ym Mangor yng Ngwynedd lle cafwyd cwymp sylweddol yn nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg.

“Mae ffigurau’r Cyfrifiad yn ergyd i’r iaith Gymraeg ac i ni gyd.”

Rhybuddiodd nad yw’r targedau sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru fel rhan o gynllun Iaith Pawb yn cael eu hystyried o ddifri, ac nad oes digon o waith yn cael ei wneud i adfer y Gymraeg yn y gymuned.

Ychwanegodd: “Rhaid i ni gael sgwrs ddifrifol iawn am ddyfodol yr iaith Gymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith, y byddaf yn dechrau arni’r prynhawn yma yn fy nadl fer yn y Cynulliad.

“Mae’r iaith Gymraeg yn eiddo pawb yng Nghymru a rhaid i ni gyd chwarae rhan yn adferiad yr iaith.”

‘Canlyniadau yn destun pryder mawr’

Yn dilyn y cyhoeddiad y bore yma, dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robin Farrar: “Wrth reswm, mae’r canlyniadau hyn yn destun pryder mawr, yn enwedig y sefyllfa yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, lle nad oes un gymuned lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg bellach.

“Mae cymunedau o’r fath yn gwbl hanfodol i’r iaith, ac mae’r dystiolaeth ryngwladol yn gwbl eglur yn hynny o beth.

“Mae argyfwng yn wynebu’r iaith a’i chymunedau, ac mae angen i’r Llywodraeth roi polisïau ar waith er mwyn sicrhau bod y Gymraeg a’i chymunedau yn ffynnu.”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal nifer o ralïau yn ystod yr wythnosau diwethaf i drafod sefyllfa cymunedau ledled Cymru, ac fe fydd y rali nesaf ddydd Sadwrn yn Aberystwyth.

Ychwanegodd Robin Farrar: “Mae’n rhaid mynd i’r afael â pholisïau sy’n niweidiol i gymunedau Cymraeg, megis datblygiadau tai anferth diangen, canoli arian yn ein hawdurdodau lleol yn hytrach na’i fuddsoddi yn ein cymunedau a diffyg polisïau caffael sy’n sicrhau bod pobl leol yn cael gwaith.

Ychwanegodd: “Yn ein maniffesto byw, rydyn ni’n amlinellu sawl cam cwbl ymarferol y gallai – ac y dylai’r – Llywodraeth ac eraill eu cymryd eleni i newid hynny a chryfhau sefyllfa’r iaith.

“Rydan ni’n edrych ymlaen at gwrdd â’r Prif Weinidog yr wythnos nesaf i drafod y syniadau hyn. Mae’n hanfodol ei fod yn cydnabod bod argyfwng yn wynebu’r Gymraeg.

“Dyhead nifer cynyddol o bobl Cymru yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg; a sicrhau cryfder cymunedau Cymraeg yw’r unig ffordd o wireddu’r weledigaeth honno. Yr hyn sydd ei eisiau arnom yw’r ewyllys gwleidyddol i wireddu dyheadau pobl ar lawr gwlad.”

Mae ‘Maniffesto Byw’ y Gymdeithas yn awgrymu ffyrdd o sicrhau dyfodol i’r iaith yn y cymunedau, ac mae’r rhain yn amrywio o ddeddfwriaeth i well addysg Gymraeg mewn ysgolion a sicrhau tai i Gymry Cymraeg yn eu cymunedau eu hunain.

http://www.ons.gov.uk/ons/interactive/census-map-2-2—wlanguage-w/index.html

http://data.wales.gov.uk/publications/130130-2011-census-welsh-language-data-small-areas-cy.pdf