Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod sicrhau dyfodol cymunedau lle mae’r Gymraeg yn brif iaith yn hanfodol ar gyfer ei dyfodol.

Daw’r cyhoeddiad wrth i ystadegau manylach y Cyfrifiad gael eu cyhoeddi heddiw, sy’n cynnwys manylion am nifer y siaradwyr Cymraeg yng nghadarnleoedd traddodiadol yr iaith.

Erbyn y Cyfrifiad y llynedd, roedd yna ostyngiad o 20,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Roedd yna ostyngiad hefyd yn y ganran o gymunedau lle mae 70% yn siarad Cymraeg, o 92 yn 1991 i 54 yn 2001.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gobeithio cynyddu’r nifer o 5%.

‘Cymunedau Cymraeg yn hanfodol’

Dywedodd llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone: “Safbwynt y Gymdeithas yw bod cymunedau Cymraeg a’u twf yn gwbl hanfodol i’r iaith yn gyffredinol.

“Dyn ni ddim yn cytuno gyda’r rhai sydd yn dadlau nad yw cymunedau daearyddol lle mae’r Gymraeg yn brif iaith yn bwysig. Mae’r dystiolaeth ryngwladol yn gwbl glir yn hynny o beth.

“Mae yna sawl peth cwbl ymarferol y gallai’r Llywodraeth eu gwneud eleni i gryfhau’r iaith, yn ogystal â gweithredoedd gan sefydliadau a chymunedau eu hunain. Mae nifer o syniadau yn ein maniffesto byw, a byddwn ni’n cyhoeddi nifer o ofynion i Lywodraeth Cymru yn fuan.”

‘Angen polisïau newydd’

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn trafod canlyniadau’r Cyfrifiad gyda’r gwrthbleidiau yn y Cynulliad, ac mae disgwyl iddyn nhw gyfarfod â’r Llywodraeth ar Chwefror 6.

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cenedlaethol y Gymdeithas: “Ry’n ni’n edrych ymlaen at gwrdd â’r Prif Weinidog wythnos nesaf.

“Mae’n hanfodol ei fod yn cydnabod bod argyfwng yn wynebu’r Gymraeg: mae angen polisïau newydd ar y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod y Gymraeg a’u cymunedau yn ffynnu.

“Mae’r niferoedd uchel o bobl sydd wedi mynychu ein ralïau wedi dangos mai dyhead nifer cynyddol o bobl Cymru yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg; a sicrhau cryfder cymunedau Cymraeg eu hiaith yw’r unig ffordd o wireddu’r weledigaeth honno.

“Yr hyn sydd eisiau arnom yw’r ewyllys gwleidyddol i wireddu dyheadau pobl ar lawr gwlad.”

Bydd rali yn cael ei chynnal i roi sylw i’r canlyniadau yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.