Elin Jones
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad, a wynebu’r ffigyrau sy’n dangos dirywiad yn yr iaith Gymraeg.

Fe fydd canlyniadau manwl y Cyfrifiad yn cael eu rhyddhau heddiw.

Galwodd AC Plaid Cymru, Elin Jones ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad am yr ystadegau, chwe wythnos wedi iddyn nhw gael eu cyhoeddi.

“Amlygodd ffigyrau’r cyfrifiad lawer o bynciau brys sy’n ein hwynebu yma yng Nghymru. Un o’r amlycaf oedd y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg – 14,000 yn llai na degawd yn ôl,” meddai Elin Jones.

“Mae Plaid Cymru yn bryderus iawn am y ffigyrau hyn, ac oherwydd hynny yr ydym yn lansio ymgynghoriad ar y ffordd ymlaen o ran polisi’r iaith Gymraeg. Alla’i ddim deall pam na ddangosodd Llywodraeth Cymru yr un pryder.”

‘Diffyg gweithredu’

Roedd canran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 20.5% i 19% o’r boblogaeth rhwng 2001 a 2011, ac mae Elin Jones yn dweud bod diffyg gweithredu gan y Llywodraeth yn siomedig iawn.

“Gallai Llywodraeth Cymru fod yn gweithredu ar unwaith i gefnogi’r iaith. Mae llawer o bethau y gall wneud yn syth. Er enghraifft, gallai weithio i weithredu safonau Mesur yr Iaith Gymraeg, a sicrhau fod busnesau Cymreig yn cael ffafriaeth mewn caffael yn y sector cyhoeddus.

“Dylai canlyniadau’r cyfrifiad fod wedi brawychu Llywodraeth Cymru a’u hysgwyd i wneud rhywbeth, ond yn siomedig iawn, dros chwe wythnos yn ddiweddarach, rydym yn dal i ddisgwyl am ymateb.”