Peter Lewis
Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am o leiaf 22 mlynedd am ladd pensiynwr oedd ag anableddau dysgu.

Roedd William Jones, 32, wedi llofruddio Peter Lewis yn ardal y Rhath ym mis Ebrill y llynedd a chafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw ar ôl gael ei ganfod yn euog Ddydd Gwener.

Yn ystod yr achos roedd y Llys wedi clywed bod William Jones wedi bod yn chwilio am ei gariad ar adeg y digwyddiad, ac wedi cnocio ar ddrysau sawl tŷ yn yr ardal.

Pan ddaeth Peter Lewis, 68, i ateb y drws, ymosododd Jones arno gyda chyllell a’i anafu yn angheuol.

Roedd Jones yn defnyddio cyffuriau yn rheolaidd a dywedodd iddo fod yn flin ar noson yr ymosodiad am iddo dybio bod ei gariad gyda dyn arall.