Y pendew
Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn dechrau ar y gwaith o ddifa poblogaeth o bysgod estron o lynnoedd Llanelli heddiw.

Bydd yr Asiantaeth yn gweithredu i ddiogelu rhywogaethau cynhenid ym Mharc Arfordirol y Mileniwm, sydd dan fygythiad gan y Pysgodyn Pendew.

Mae’r Pendew yn wreiddiol o Asia, a daeth i Ewrop yn y 1960au. Ers hynny, mae niferoedd y pysgodyn bychan wedi cynyddu, a nawr maen nhw’n bygwth pysgod brodorol drwy fwyta eu hwyau.

Bydd pysgod cynhenid yn cael eu tynnu o’r llynnoedd cyn i wenwyn gael ei roi yn y dŵr i ddifa’r Pendew.  Bydd y pysgod brodorol, fel Cerpynnod, Gwarchod, Rhufell a Rhuddbysgod yna yn cael eu dychwelyd i’r llynnoedd.

Nid yw’r cemegyn yn beryglus i bobol nag anifeiliaid eraill.

Dywedodd Phil Morgan, o Asiantaeth yr Amgylchedd, bod y gwaith yn bwysig i ddifa’r pysgodyn niweidiol o Gymru.

“Ni ddylai pysgod fel y Pendew fod yn afonydd a llynnoedd Cymru. Mae’n bwysig i weithredu nawr i ddifa’r pysgod yma cyn iddyn nhw ledaenu ymhellach ac effeithio ar ein pysgod cynhenid,” meddai.

“Y ffordd fwyaf cyffredin mae pysgod estron yn lledaenu yw drwy bobol yn symud pysgod yn anghyfreithlon. Mae hyn hefyd yn lledaenu clefydau a pharasitiaid.”