Portread gan JW Beaufort, 1923, yn nwylo’r Natural History Museum
Mae portread o wyddonydd arloesol o Gymru yn cael ei godi heddiw yng nghyntedd y Natural History Museum yn Llundain.

Roedd Alfred Russel Wallace wedi dod o hyd i’r ddamcaniaeth ar ddetholiad naturiol cyn Charles Darwin, ond nid yw wedi cael yr un gydnabyddiaeth â’r naturiaethwr enwog o Loegr.

Cafodd ei eni ger Brynbuga yn ne-ddwyrain Cymru a gwnaeth waith pwysig yn Nglyn Nedd, a bydd ei bortread  yn cael ei godi ym mhrif gyntedd yr Amgueddfa – drws nesaf i bortread Charles Darwin.

Y digrifwr Bill Bailey a fydd yn dadorchuddio’r portread ar drothwy cyfres o raglenni dogfen ar hanes Wallace ar BBC2.

Mae’r amgueddfa hefyd ar fin lansio rhaglen fawr yn nodi canrif ers marwolaeth Wallace yn 1913 – ‘Wallace 100’.

Mwy yn rhifyn Golwg wythnos yma