Mae pleidlais yn y Cynulliad heddiw i benderfynu a fydd yn rhaid i berchnogion bwytai yng Nghymru arddangos eu sgoriau hylendid bwyd.

Bydd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths yn arwain y drafodaeth brynhawn yma cyn i aelodau’r Cynulliad bleidleisio ar Fil sy’n ceisio adeiladu ar system wirfoddol o sgorio hylendid bwytai.

Mae arweinwyr busnes wedi codi pryderon am effeithiolrwydd y cynllun ac os caiff y Bil ei basio bydd yn gorfodi pob bwyty a chaffi yng  Nghymru i arddangos eu sgôr hylendid bwyd.

Dan y cynllun bydd pob bwyty yn cael sgôr o 0 i 5, gyda 0 yn golygu bod angen gwelliant brys a 5 yn golygu bod hylendid bwyd ardderchog.  Os na fyddai’r sgoriau’n cael eu harddangos, gall bwytai wynebu dirwy.

Rhoi adroddiadau ar y we?

Er i’r Bil newydd ddatblygu ar y system sydd mewn grym ar hyn o bryd, mae galw iddo fynd ymhellach gan rai.

Dywedodd arweinydd y Democratiad Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, y byddai hi’n ceisio sicrhau bod gan bobol Cymru gymaint o wybodaeth ag sy’n bosib am hylendid bwyd.  Galwodd am gyflwyno adroddiad llawn am bob sgôr sy’n cael ei roi, a bod yr adroddiadau yma ar gael ar y we.

“Tra fy mod yn croesawu’r datblygiadau mae’r Bil yn eu cyflwyno fe all fynd ymhellach,” meddai.

“Bydd sicrhau bod adroddiadau llawn ar gael i’r cyhoedd yn gwneud y mwyaf o allu’r Bil yma i wella safonau a rhoi’r hawl i bobol fwyta mewn ffydd eu bod yn ddiogel,” meddai Kirsty Williams.

Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi datgan eu pryder y bydd y mesur yn cael ei ymestyn i gynnwys cynhyrchwyr a chyfanwerthwyr, symudiad a fuasai’n anheg yn eu barn nhw.

Mae pryderon gan eraill bod y broses o apelio yn erbyn sgôr yn cymryd gormod o amser, ac yn tanseilio effeithiolrwydd y cynllun.