Llun: Opera Cenedlaethol Cymru
Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi datgan heddiw eu bod nhw am berfformio yn Llundain fel rhan o gydweithrediad newydd gyda’r Royal Opera House.

Bydd cyfres gychwynnol o dri chynhyrchiad gan y cwmni yn cynnwys y perfformiad cyntaf yn Llundain o opera newydd Richard Ayres, Peter Pan.

Dros gyfnod o dair blynedd, gan ddechrau gyda pherfformiad o Moses und Aron gan Schoenberg yn 2014, bydd y cwmni’n perfformio yn yr adeilad eiconig yn Covent Garden.

Yn 2015, byddan nhw’n llwyfannu comisiwn newydd i ddathlu pen-blwydd Opera Cenedlaethol Cymru yn 70 mlwydd oed.

Dywedodd prif weithredwr a chyfarwyddwr artistig Opera Cenedlaethol Cymru, David Pountney: “Mae’r cydweithio newydd yma rhwng Opera Cenedlaethol Cymru a’r Royal Opera House yn bartneriaeth bwysig – yn artistig ac yn ddiwylliannol.

“Rydym wrth ein boddau ein bod ni wedi cael y cyfle i gyflwyno rhai o’n rhaglenni mwyaf uchelgeisiol o fewn amgylchedd mawreddog y Royal Opera House.”

Bydd y perfformiadau yn Llundain yn cael eu dilyn gan berfformiadau eraill ym Mirmingham ac yng Nghaerdydd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Opera’r Royal Opera House, Kasper Holten: “Rwy’n gyffrous iawn am groesawu Opera Cenedlaethol Cymru i Covent Garden.

“Yn y cyfnod anodd hwn, mae cydweithio yn allweddol. A’r mwyaf all gwmnïau opera gydweithredu a gweithio gyda’i gilydd, y cryfaf fydd yr achos allwn ni ei wneud dros opera.”