Leighton Andrews
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan heddiw eu bod nhw am neilltuo £3.5 miliwn mewn grantiau i hybu’r iaith Gymraeg.

Ym mis Ebrill y  llynedd trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am hybu’r defnydd o’r Gymraeg o Fwrdd yr Iaith Gymraeg i Lywodraeth Cymru.

Un o amcanion Strategaeth y Gymraeg y Llywodraeth, Iaith Fyw: Iaith Byw, yw cryfhau safle’r Gymraeg yn y gymuned  – a bydd y grantiau yn targedu sefydliadau sy’n rhoi’r cyfle i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.

Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg:

“Rydyn ni am i fwy o bobl gael y cyfle i fwynhau defnyddio mwy o Gymraeg fel rhan o fywyd dydd i ddydd. Mae canlyniadau’r cyfrifiad diweddaraf wedi ein hatgoffa o bwysigrwydd sicrhau bod pawb o bob oedran yn gallu defnyddio’r iaith wrth gymdeithasu ym mhob cwr o Gymru.

“Dyna pam ein bod ni’n darparu dros £3.5 miliwn o gyllid grant i sefydliadau gwahanol sy’n hybu defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau. Mae hwn yn gynnydd o tua £100,000 ar y llynedd, sy’n dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod yr iaith yn parhau i ffynnu.”

Bydd y grantiau yn cael eu rhoi i sefydliadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol, y Mentrau Iaith, Ffermwyr Ifanc a’r Urdd ond mae £85,310 y flwyddyn hefyd wedi ei neilltuo i 50 o Bapurau Bro Cymru dros y tair mlynedd nesaf.

“Drwy sefydliadau a chymdeithasau megis y Mentrau Iaith ar Papurau Bro, sy’n gweithio ar lawr gwlad, gallwn ni sicrhau ein bod ni’n rhoi cyfle i bobl ddefnyddio’u Cymraeg ac yn caniatáu i’n cymunedau ffynnu,” ychwanegodd Leighton Andrews.

‘Llywodraeth heb sylweddoli maint yr argyfwng’

Ond yn ôl Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Robin Farrar, nid yw’r grantiau’n ddigon i sicrhau’r cynnydd sydd ei angen ac mae’n galw am fesur “ôl-troed ieithyddol”  holl wariant Llywodraeth Cymru.

Dywedodd: “Er ein bod yn falch nad oes rhagor o doriadau i grantiau’r mudiadau Cymraeg hyn, nid yw’n mynd i fod yn ddigonol i sicrhau’r cynnydd sylweddol sydd eisiau yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

“Dyna pam, yn ein maniffesto byw, ry’n ni’n galw am adolygiad cyflawn o holl wariant y Llywodraeth, i’w gynnal gan gorff annibynnol, ac asesu perthynas y gwariant hwnnw â’r Gymraeg – sef mesur ôl-troed ieithyddol y gwariant.

“O ystyried y twf sydd wedi bod yn nifer y siaradwyr Basgeg mewn cyfrifiadau ers 1991, dylid cynyddu’r adnoddau a roddir i hyrwyddo’r Gymraeg i lefelau’r wlad honno, sef pedair gwaith cymaint â’r gwariant presennol yng Nghymru.”

“0.02% o holl gyllideb Llywodraeth Cymru yw gwerth y grantiau a gyhoeddwyd heddiw. Dylid cael ei weld yn y cyd-destun ehangach felly, sef yr holl fuddsoddiad y Llywodraeth yn y Saesneg. Nid yw’n glir bod y Llywodraeth wedi sylweddoli maint yr argyfwng sydd yn wynebu’r Gymraeg, a gafodd ei ddangos yn glir gan ganlyniadau diweddar y Cyfrifiad.”

‘Gwendid sylfaenol’

Dywedodd y mudiad Dyfodol yr Iaith eu bod yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn parhau gyda’u hymrwymiad i ariannu sefydliadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn y gymuned a’r cynnydd bychan iawn yn y cyllid ar adeg o gyni ariannol.

Ond dywedodd y mudiad eu bod hefyd am weld y Llywodraeth yn gwireddu un arall o’i hamcanion yn ei strategaeth Gymraeg, “Iaith Fyw: Iaith Byw”  sef  “prif ffrydio’r Gymraeg ar draws holl weithgareddau Llywodraeth Cymru”.

“Prin yw’r dystiolaeth bod hynny yn digwydd ar hyn o bryd. Un enghraifft yw’r ddogfen ymgynghorol ar Strategaeth Pobl Hŷn Llywodraeth Cymru. Does dim un  cyfeiriad at y Gymraeg yn y ddogfen honno.

“Daeth cyfnod ymgynghori’r Strategaeth Pobl Hŷn i ben heddiw ac mae Dyfodol wedi cyflwyno ymateb cynhwysfawr yn tynnu sylw at y gwendid sylfaenol hwn.

“Edrychwn ymlaen at gyfle i drafod gyda’r llywodraeth sut mae gweithredu amcanion Iaith Byw; Iaith Fyw,” meddai llefarydd.