Dr Rowan Williams
Mae cyn Archesgob Caergaint, y Dr Rowan Williams wedi cymryd ei sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi fel arglwydd am oes.

Roedd yr Arglwydd Williams o Ystumllwynarth wedi tyngu llw i’r Frenhines yn ystod seremoni heddiw.

Roedd wedi bod yn aelod o’r Arglwyddi ers cael ei benodi yn Archesgob Caergaint yn 2002 a chafodd ei enwebu gan y Prif Weinidog David Cameron ar ôl cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i fod yn Archesgob.

Fe ddaeth ei gyfnod fel Archesgob i ben ar ddiwedd y flwyddyn, ac fe fydd yn  cychwyn ar swydd newydd fel Meistr Coleg Magdalen yng Nghaergrawnt.

Cafodd ei olynu gan  y Gwir Barchedig Justin Welby, Esgob Durham.