Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi cyhoeddi heddiw y bydd ymholiad i mewn i ddefnydd y Gymraeg ym maes gofal sylfaenol.

Bydd yr ymholiad yn canolbwyntio ar wasanaethau sy’n cael eu cynnig gan feddygon, optegwyr, fferyllwyr a deintyddion, a defnydd y Gymraeg yn y meysydd yma.

Nod y Comisiynydd yw “hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg”, ac o dan ddeddfwriaeth Mesur y Gymraeg 2011, mae gan y Comisiynydd bŵer i gynnal ymholiad i unrhyw fater sy’n ymwneud a hyn.

Dywedodd Meri Huws: “Er bod gwasanaethau gofal sylfaenol yn cael eu darparu ym mhob cymuned yng Nghymru, ychydig iawn o wybodaeth a thystiolaeth sydd ar gael ynghylch darpariaeth Gymraeg yn y maes.

“Wrth gynnal yr ymholiad, byddaf yn mynd ati’n rhagweithiol i ganfod beth yw profiadau pobol wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol.  Byddaf hefyd yn trafod â phobol sy’n gweithio yn y sector i glywed eu barn a’u profiad wrth ddarparu’r gwasanaethau, ac er mwyn adnabod beth yw’r rhwystrau a’r cyfleoedd posibl,” meddai.

Bydd yr ymholiad yn cael ei lansio yn ffurfiol ym mis Mawrth, a thystiolaeth yn cael ei gasglu cyn cyhoeddi adroddiad yn yr Haf 2014.