Angharad Tomos
Mae awdures flaenllaw wedi gwrthod yr hawl i’r BBC ddarlledu un o’i straeon byrion hyd nes y bydd y Gorfforaeth wedi datrys ei ffrae gyda chorff Eos.

Dywedodd Angharad Tomos ei bod hi wedi gwneud y penderfyniad er mwyn cefnogi cerddorion sydd mewn trafodaethau gyda’r BBC ynghylch derbyn taliadau uwch i ddarlledu eu caneuon.

Roedd disgwyl i’r stori fer gael ei darlledu ar Radio Cymru ym mis Mawrth.

Dywedodd Angharad Tomos wrth Golwg360: “Jyst rhywbeth i gefnogi’r ymgyrch yw hyn. Does gen i ddim cymhellion personol. Dwi jyst yn un o wrandawyr cyson Radio Cymru.”

Wedi iddi roi gwybod i’r BBC na fyddai’n rhoi’r hawl iddyn nhw ddarlledu’r stori fer, cafodd Angharad Tomos lythyr uniaith Saesneg gan yr Adran Hawlfraint Lenyddol.

“Dwi wedi cyfrannu i Taro’r Post droeon yn y gorffennol, a bob tro wedi derbyn cytundeb yn ddwyieithog.

“Os bu adeg i weithredu, dyma’r adeg. Mae’n hynod anffodus bod hyn wedi digwydd nawr. Dwi’n cymryd bod gan yr Adran Hawlfraint yn Llundain ffordd o weithredu yng Nghymru er eu bod nhw’n ganolog.

“Dwi wedi dechrau gresynu.”

Ychwanegodd y dylai’r BBC fod yn ymwybodol o’r Ddeddf Iaith, “yn enwedig efo cyrff sy’n gweithredu o’r tu allan”.

Ymhlith y rhai sydd wedi gwrthod cyfrannu at raglenni Radio Cymru nes iddyn nhw ddatrys yr anghydfod gyda cherddorion Cymraeg mae Dewi Pws, timau Talwrn y Beirdd, yr Archdderwydd Jim Parc Nest a’r canwr Gruff Rhys.

Mae Golwg360 wedi gofyn i’r BBC am ymateb.