Lloyd George
Fe fydd gwasanaeth crefyddol yn cael ei gynnal i ddathlu 150 o flynyddoedd ers geni’r Prif Weinidog David Lloyd George.

Fe fydd hynny’n dod ynghanol dadlau brwd am fudd-daliadau a phensiynau, y drefn yr oedd y Cymro’n rhannol gyfrifol am ei sefydlu.

Fe fydd casgliad arbennig o greiriau hefyd yn cael eu dangos yn Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy, y pentref yn Eifionydd lle cafodd ei fagu.

Fe fydd y gwasanaeth yn Llanystumdwy ddydd Iau, diwrnod pen-blwydd y gwleidydd, ac fe fydd yn cael ei gynnal ger ei fedd ar lan afon Dwyfor.

Mae’r creiriau’n eiddo i Iarll Dwyfor, un o ddisgynyddion Lloyd George, ac fe fyddan nhw i’w gweld am gyfnodau byr ddydd Iau a dydd Gwener.

Synnu

“Dw i’n parhau i gael fy synnu wrth feddwl fod hogyn a fagwyd yn Llanystumdwy, na chafodd fawr o addysg ffurfiol, wedi cyrraedd swydd uchaf y wlad,” meddai un arall o’r teulu, Philip George, gor-nai’r Prif Weinidog.

“A bod dylanwad ei lwyddiannau, er enghraifft y diwygiadau lles a grewyd ganddo a’r egwyddorion tu cefn i’w gyllideb yn 1909, yn fyw hyd heddiw.”