Mae cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud y byddai morglawdd ar draws aber Hafren yn creu 50,000 o swyddi ac yn rhoi diogelwch rhag llifogydd i 90,000 o gartrefi.

Dywedodd Peter Hain wrth bwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin y byddai’r morglawdd £25 biliwn yn rhoi hwb economaidd i dde Cymru a de-orllewin Lloegr, a bod y cyhoedd yng Nghymru yn gefnogol iawn i’r cynllun.

“Mae’r pwnc wedi cael ei astudio hyd syrffed,” meddai Peter Hain wrth y Pwyllgor Ynni a Newid Hinsawdd.

“Gallwn ni barhau i ymchwilio hyn am ddegawdau i ddod ac yn y cyfamser ni fyddwn ni’n cyflawni ein targedau newid hinsawdd ac yn colli allan ar fudd economaidd enfawr.

“Rhaid i ni feddwl yn fawr, gweithredu’n fawr a chydio yn y cyfle.

“Mae hwn yn ynni naturiol a fydd yn creu trydan rhad ofnadwy i Brydain yn y tymor hir, ynghyd â buddiannau eraill,” mynnodd Peter Hain.

‘Dinistrio bywyd gwyllt’

Mae gan aber Hafren y llanw ail fwyaf yn y byd ond mae grwpiau wedi mynegi pryder am gael morglawdd i harneisio’r pŵer.

Mae Kate Jennings o’r RSPB wedi rhybuddio y byddai’r morglawdd yn cyfrannu at fwy o lifogydd ar ochr ucha’r mur, ac yn dinistrio cynefinoedd i adar a chreaduriaid eraill.

“Mae’n opsiwn risg-uchel pa bynnag safbwynt rydych chi’n ei gymryd,” meddai.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dweud nad yw’n ymwybodol o unrhyw gynllun tyrbin a fyddai’n caniatáu i bysgod deithio trwyddo, ac mae mudiadau pysgota yn gofidio y bydd yn dinistrio’r diwydiant pysgota masnachol a hamdden.

Ond mae Andy Richards, ysgrifennydd Cymru undeb Unite, wedi dweud fod cefnogaeth gyhoeddus “sylweddol” yng Nghymru i forglawdd a bod hi’n bryd edrych yn fanwl ar gynigion Hafren Power, y cwmni sydd y tu ôl i’r fenter.