Castell Penfro
Bydd deiseb yn cael ei chyflwyno i’r Cynulliad heddiw yn galw am godi cerflun o Harri Tudur yn nhref Penfro.

Mae’r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i dalu am gerflun o’r Brenin Harri VII o Loegr, er mwyn dathlu Penfro fel man ei eni yn 1457.  Yn ôl cefnogwyr y ddeiseb, bydd cofeb i’r brenin Harri yn gwella economi’r dref gan ddenu pobl i ymweld â man ei enedigaeth.

Bydd y prif-ddeisebydd, Nathen Amin, yn cyflwyno’r ddeiseb, sydd a dros 140 o enwau arni, i’r Pwyllgor Deisebau heddiw, a bydd y mater yn cael ei drafod mewn cyfarfod ar 29 Ionawr.

Cafodd Harri Tudur ei fagu yng Nghastell Penfro cyn mynd yn ei flaen i guro Rhisiart III yn rhyfel Bosworth a dod yn frenin yn 1485.  Roedd yn frenin hyd at ei farwolaeth yn 1509.