Pencadlys Cyngor Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd yn gofyn i’r cyhoedd ymateb i gynlluniau i gau unarddeg o swyddfeydd cofrestru genedigaethau, marwolaethau a phriodasau yn y sir – gan adael dim ond un swyddfa yn ardal Meirionnydd.

Mae dogfen ymgynghoriad y cyngor yn awgrymu mai dim ond ym Mangor, Dolgellau, Pwllheli ac o bosib, Caernarfon y dylid cadw’r swyddfeydd.

Ar hyn o bryd mae prif swyddfa y gwasanaeth cofrestru yn Neuadd y Ddinas Bangor gyda swyddfeydd eraill ym Mhwllheli a Dolgellau. Mae’r staff yn teithio i is-swydddfeydd ym Mhenygroes, Deiniolen, Llanberis, Porthmadog, Cricieth, Penrhyndeudraeth, Blaenau Ffestiniog, Bala, Tywyn a Thrawsfynydd ar adegau penodol.

Yn ôl y ddogfen mae “angen rhesymoli’r ffordd y trefnir seremonïau yn y Sir, bod angen ystyried yn y tymor hir ein trefniadau ar gyfer cadw’r cofrestrau hanesyddol a’u gwarchod i’r dyfodol a bod modd rhesymoli’r defnydd o orsafoedd allanol.”

Mae cynghorwyr ym Meirionnydd yn bryderus am effaith ymarferol y cynlluniau ar drigolion yr ardal gan fod y ddogfen ymgynghorol yn awgrymu dirwyn y gwasanaeth i ben ym mhob un o’r swyddfeydd bychan gan orfodi pawb i deithio i’r gorsafoedd agosaf yn Nolgellau neu Bwllheli.

“Mae Cyngor Tref Tywyn yn eithaf clir eisiau cadw’r gwasanaeth,” meddai’r Cyngorydd Anne Lloyd-Jones. “Mae’n anoddach mewn ardaloedd fel Tywyn os fydd popeth yn cael ei ganoli yn Noglellau. Tydi’r gwasanaeth bws ddim yn gyfleus i fam fynd i Dolgellau a hyd yn oed wedyn bydd rhaid cerdded gyda’r plentyn i’r swyddfa. Gallai newid safle yn Nhywyn arbed arian ond dylai’r gwasanaeth gario ymlaen.”

Gellir ymateb i’r ddogfen o hyn hyd at 27 Ionawr.