Mae angladd milfeddyg a gafodd ei llofruddio yn Sir y Fflint yn cael ei gynnal heddiw yn Iwerddon.
Roedd Catherine Gowing yn dod yn wreiddiol o Swydd Offaly yn Iwerddon ac wedi bod yn filfeddyg yn yr Wyddgrug ers blwyddyn a hanner.
Yn nechrau mis Tachwedd daeth yr heddlu o hyd i rai o weddillion Catherine Gowing, oedd yn 37, mewn pwll o ddŵr yn Sealand, a hefyd ar lan yr afon Dyfrdwy ger Caer.
Mae rhannau o’i gweddillion yn dal heb eu darganfod.
Ar Ddydd Llun, Ionawr 14 bydd y dyn sydd wedi ei gyhuddo o’i llofruddio, Clive Sharp, yn ymddangos gerbron barnwr yn Llys y Goron yr Wyddgrug er mwyn cynnig ple.