Mae Plaid Cymru wedi beirniadu BBC Cymru am y modd y mae wedi ymdrin â’r anghydfod dros daliadau darlledu.

Yn ôl Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Elfyn Llwyd mae Radio Cymru yn dioddef er mwyn i’r BBC gael “gwarchod y berthynas gyfforddus gyda’r PRS.”

“Mae’r anghydfod presennol wedi bod yn corddi ers misoedd bellach,” meddai, a dywedodd y “dylasai bwrdd y BBC yng Nghymru fod wedi bod yn gwneud llawer mwy o ran trafod wirioneddol ac ystyrlon.”

“Mae bywoliaeth artistiaid yng Nghymru, y sin roc a cherddoriaeth Gymreig,  dan fygythiad, a thrwy hynny mae’r iaith a’r diwylliant yn cael eu tanseilio,” meddai Elfyn Llwyd.

1/4 o beth mae’r Asian Network yn ei dderbyn’

Mae’r anghydfod am daliadau cerddorion yn parhau ac ni fydd Eos a’r BBC yn cwrdd tan wythnos nesaf er mwyn ceisio dod i gytundeb.

Mae’r anghydfod wedi cael sylw y tu hwnt i Gymru, ym mhapurau Llundain, ac wedi ei drafod heddiw ar raglen Jeremy Vine ar BBC Radio 2.

Mae cwmni cerddoriaeth Sain wedi rhyddhau datganiad yn dweud fod “cynnig y BBC i Eos gyfystyr â 1/4 o beth mae’r Asian Network yn ei dderbyn.”

“Nid yw’r cynnig yn sylweddol, ac nid yw Eos hyd yn oed yn gofyn am gydraddoldeb gyda’r Asian Network.”

Mae Radio Cymru wedi gorfod cyfyngu ar nifer y caneuon mae’n eu chwarae ers ddoe, ac wedi cwtogi dwy awr oddi ar y gwasanaeth.

Ddydd Llun roedd Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru, Elan Closs Stephens, wedi rhyddhau datganiad yn “erfyn ar y ddwy ochr i ddod i gytundeb teg a fforddiadwy er mwyn i Radio Cymru allu unwaith eto ddarparu ei gwasanaeth llawn, sydd mor annwyl gan ei chynulleidfa.”