Cafodd Huw Prys Jones olwg fanylach ar ffigurau’r Cyfrifiad ar y niferoedd sy’n siarad Cymraeg a gyhoeddwyd yn gynharach yn y mis

Arwynebol a simplistig iawn ar y cyfan fu’r ymateb hyd yn hyn i’r canlyniadau a gyhoeddwyd ychydig dros bythefnos yn ôl. Gorymateb llwyr a darogan gwae gan rai, ac eraill yn cysuro’u hunain drwy honni nad ydi ffigurau cyfrifiadau’n bwysig p’run bynnag.

Mae’n wir bod angen cydnabod cyfyngiadau’r Cyfrifiad. Y cyfan mae’n ei wneud ydi dangos faint o bobl sy’n dweud eu bod nhw’n medru Cymraeg. Dydi o ddim yn rhoi unrhyw arwydd o’r graddau mae’r iaith yn cael ei defnyddio’n rheolaidd. A hynny ydi’r peth mwyaf allweddol ar lawer ystyr.  Mae’n werth cofio hefyd wrth gwrs fod arolygon eraill mwy manwl yn cael eu cynnal o bryd i’w gilydd, fel nad oes yn rhaid defnyddio ffigurau’r Cyfrifiad fel yr unig linyn mesur.

Ar y llaw arall, drwy fod y Cyfrifiad yn cael ei gynnal yn rheolaidd bob deng mlynedd, a’i fod yn ymarferiad trylwyr gyda holl adnoddau’r wladwriaeth yn gefn iddo, ni ellir diystyru’r math o dueddiadau y mae’n ei ddangos. Oherwydd hynny, mae’n werth edrych yn fanwl ar y ffigurau.

All neb wadu mai’r newid amlycaf a mwyaf arwyddocaol dros y 40 mlynedd diwethaf ydi’r dirywiad yn y canrannau yn yr ardaloedd lle mae’r mwyafrif yn siarad Cymraeg.

Ar yr un pryd, fodd bynnag, mae perygl mewn unrhyw or-gyffredinoli. Mae’n rhy hawdd dibynnu ar benawdau hawdd fel ‘cwymp yn y cadarnleoedd’ i greu’r argraff mai’r un math o brosesau sydd ar waith yn yr holl ardaloedd Cymraeg eu hiaith. O graffu tipyn ar yr ystadegau, mae’n gwbl amlwg bellach fod yr hyn sy’n digwydd yn Sir Gaerfyrddin, er enghraifft, yn bur wahanol i Geredigion, heb sôn am Wynedd a Môn.

Niferoedd a chanrannau

Rhwng 2001 a 2011, disgynnodd niferoedd y siaradwyr Cymraeg o 582,000 i 562,000 – cwymp o 20,000 neu 3.5% mewn niferoedd, a gostyngiad o 1.7 pwynt canran o 20.7% yn 2001 i 19.0% yn 2011.

Tra bu cynnydd o 4,200 yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd, a chynnydd o 1,000 yr un yn Sir Fynwy a Chaerffili, collwyd 6,148 o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin a 2,954 yng Ngheredigion. Roedd y colledion hyn yn llawer llai yn y gogledd orllewin fodd bynnag – 325 ym Môn, 846 yng Ngwynedd a 698 yng Nghonwy – er bod y canrannau wedi gostwng yn y siroedd hyn.

Wrth gymharu colledion o’r fath â’r niferoedd yn 2001, mae’n amlwg mai mewn dau fath o penodol o ardaloedd y digwyddodd y colledion mwyaf:

  • Cymoedd gorllewinol maes glo’r de (cwymp o 11.6% yng Nghastell Nedd Port Talbot, a 9% yn Sir Abertawe o gymharu â ffigurau 2001). Mae’r un peth yn wir i raddau am Wrecsam yn y gogledd-ddwyrain hefyd.
  • Ardaloedd y de ddwyrain gyda’r cyfrannau isaf o siaradwyr Cymraeg (collodd Blaenau Gwent 17.6% o’i siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 a 2011, a chollodd Torfaen 11.6%)

Gellir priodoli’r cwymp yn yn yr ardaloedd gorllewinol i’r nifer o siaradwyr Cymraeg hŷn a gollwyd dros y 10 mlynedd ddiwethaf; mae tystiolaeth o hyn i’w gael trwy edrych ar broffil oedran siaradwyr Cymraeg Cyfrifiad 2001 mewn ardaloedd o’r fath.

Er bod llai o dystiolaeth uniongyrchol am y gostyngiadau yn y de-ddwyrain, mae’n anodd osgoi’r casgliad fod y ffigurau’n afrealistig o uchel ddeng mlynedd yn ôl. (Yn hyn o beth, mae’n rhaid codi rhywfaint o amheuon am y ffigurau sy’n dangos cynnydd yn Sir Fynwy’r tro hwn. Mae’r canrannau o 40.3% o blant 5-9 oed a 43.6% o blant 10-14 sy’n siarad Cymraeg yn uwch na’r hyn ydyn nhw yn unrhyw sir arall i’r dwyrain o Sir Gaerfyrddin.)

Plant yn colli iaith

O edrych ychydig o dan yr wyneb, mae yna ffigurau llawer mwy dadlennol i’w cael.

Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd 37.4% o blant 5-9 oed a 43.7% o blant 10-14 oed yn gallu siarad Cymraeg. Digon tebyg yw’r ffigurau cyfatebol yng Nghyfrifiad 2011 – 38.2% a 42.2%.

Ond petaech chi’n cymharu’r ffigurau am blant 2001 gyda’r ffigurau am bobl ifanc 15-19 oed a 20-24 oed yn 2011 – sef yr un unigolion i raddau helaeth, neu o leiaf yr un genhedlaeth – mae’r colledion yn ysgytwol.

O’r plant a gafodd eu geni rhwng 1992 a 1996, yr oedd 37.4% ohonyn nhw’n siarad Cymraeg yn 2001 – ond dim ond 29.4% ohonyn nhw oedd yn siarad Cymraeg erbyn 2011. O ystyried y bydd y mwyafrif o’r rhain yn dal yn yr ysgol, mae’n gryn ostyngiad. Dydi hyn fodd bynnag yn ddim o’i gymharu â’r grŵp oedran nesaf.

O’r rhai a gafodd eu geni rhwng 1987 a 1991, roedd 43.7% ohonyn nhw’n siarad Cymraeg yn 2001. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, fodd bynnag, roedd y gyfran wedi gostwng i 17.6%.

O edrych ar y graffiau ar wefan Comisiynydd y Gymraeg fe welwn fod y niferoedd o’r genhedlaeth hon a oedd yn siarad Cymraeg wedi gostwng o tua 85,000 yn 2001 i tua 37,500 ddeng mlynedd yn ddiweddarach. (Fy amcangyfrif i o’r graffiau ydi hyn – does dim ffigurau manwl arnyn nhw).

A chymryd y bydd llawer o ymfudo wedi digwydd a phobl ifanc wedi mynd i golegau yma ac acw, all hyn ynddo’i hun fyth fod yn ddigon i gyfrif am y newid. Yr unig gasgliad y gellid dod iddo ydi bod yna niferoedd anferthol naill ai’n colli gafael ar yr iaith unwaith maen nhw’n gadael yr ysgol, neu nad oedden nhw ond yn medru siarad y nesaf peth i ddim yn y lle cyntaf.

Mae’r gostyngiadau mwyaf yn yr ardaloedd mwyaf Saesneg eu hiaith. Tra bod rhwng 3,000 a 3,500 o blant 10 i 14 oed yn gallu Cymraeg yn Nhorfaen yn ôl cyfrifiad 2001, dim ond ychydig dros 500 o’r genhedlaeth yma oedd yn dal i siarad Cymraeg yno yn 2011. Yn yr un modd, Blaenau Gwent – tua 2,300 yn 2001 wedi gostwng i tua 700-800 erbyn 2011. A Chasnewydd – o tua 4,600 yn 2001 i tua 800 erbyn 2011.

Mae rhywfaint o ostyngiadau i’w gweld yn y siroedd Cymreicaf hefyd, ond ddim yn agos i’r un graddau. Yng Ngwynedd, roedd tua 6,500 o blant 10-14 oed yn siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2001 o gymharu â 5,000 o bobl ifanc 20-24 oed yn 2011. Mae’n ymddangos fod y gostyngiad cyfatebol ym Môn o tua 3,500 yn 2001 i 2,500 yn 2011. (Mae’r gostyngiad yn llai yn Nghaerdydd hefyd – o ychydig dros 6,000 i ychydig o dan 4,000, ond mae amgylchiadau Caerdydd yn debyg o fod yn rhai rhy eithriadol i ddod i unrhyw gasgliad synhwyrol yn eu cylch.)

Mae’n werth edrych ar y darlun ieithyddol yn llawnach yn ambell un o’r siroedd.

Sir Gaerfyrddin (43.9%)

Yn ôl cyfrifiad 1961, roedd 75% o bobl Sir Gaerfyrddin yn siarad Cymraeg – canran debyg i’r hyn oedd yn siroedd eraill y gorllewin. Does dim rhyfedd felly fod y sir yn arfer cael ei hystyried yn un o gadarnleoedd y Gymraeg.

Ond roedd arwyddion o’r dirywiad hyd yn oed cyn belled yn ôl ag 1961, pryd roedd canrannau llawer uwch o bobl hŷn nag o blant yn ei siarad. Felly er cymaint y dirywiad dros y 10 mlynedd ddiwethaf, dydi o ddim yn gwbl annisgwyl.

Yn anffodus, does dim llawer o gysur i’w gael o edrych ar y proffil oedran eleni chwaith.

Hyd yn oed ymhlith yr oedrannau 5-9 a 10-14 – sef plant oed ysgol sydd â’r canrannau uchaf yn siarad Cymraeg – dim ond 60% sy’n siarad Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn cymharu â dros 80% yng Ngheredigion a Môn a dros 90% yng Ngwynedd. Llai na 40% o bob grŵp oedran rhwng 25 a 65 sy’n gallu’r iaith yn Sir Gaerfyrddin. A llai na thraean o’r holl boblogaeth sy’n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg.

Ceredigon (47.3%)

Er i gyfran y siaradwyr Cymraeg ostwng yn is na hanner am y tro cyntaf, mae’n bosibl bod nifer y myfyrwyr yn y sir yn golygu nad yw’r sefyllfa lawn cynddrwg ag mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf.

Mae’r canrannau o blant sy’n siarad Cymraeg fymryn yn uwch na’r hyn yw ym Môn, lle mae’r gyfran ymhlith y boblogaeth gyffredinol yn sylweddol uwch. Ond mae’r ganran yn gostwng i 31.3% yn y grŵp oedran 20-24, ac mae’n debyg bod hyn i’w briodoli’n bennaf i fyfyrwyr.

Rhywbeth mwy difrifol yw’r 3,000 o siaradwyr Cymraeg a gollwyd o’r sir dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Môn (57.3%)

Er bod y Gymraeg fel petai wedi dal ei thir yma i raddau helaeth dros y 10 mlynedd ddiwethaf, mae effaith mewnfudo i’w weld yn glir. Prin hanner y bobl  dros 50 a 60 sy’n siarad Cymraeg, ac o ystyried y byddai’n mwyafrif llethol o bobl yr oedran yma sydd wedi cael eu geni a’u magu ym Môn yn gallu’r iaith, mae’n amlwg mai pobl ddwad yw’r mwyafrif.

Gwynedd (65.4%)

Y sir Gymreiciaf o ddigon yn ôl unrhyw faen prawf. Yma, fel yng Ngheredigion, mae’n ymddangos fod myfyrwyr yn dylanwadu ar y ffigurau. Mae’r ganran o 51.4% o bobl ifanc 20-24 oed sy’n siarad Cymraeg yn llawer iawn is nag unrhyw grŵp, er bod effeithiau mewnfudo’n amlwg yma hefyd ymysg y cenedlaethau hŷn. Mater arall o bryder yma yw fod cwymp cyffredinol yn niferoedd y plant wedi peri cwymp yn nifer y plant sy’n siarad Cymraeg er bod y ganran wedi codi fymryn.

Casgliadau

Dydi Cyfrifiad 2011 ddim yn dangos darlun anobeithiol. Ond mae’n tanlinellu’r angen i ofyn cwestiynau y dylid bod wedi eu gofyn ymhell cyn hyn am effeithiolrwydd ein hymdrechion i ddiogelu’r iaith.

Oes, mae enillion pwysig wedi cael eu gwneud dros y Gymraeg dros y 50 mlynedd ddiwethaf. Mae hyn i’w weld yn arbennig o ran statws ac ym maes addysg, ac mae gan Gymru bellach y pwerau i weithredu’n ymarferol dros yr iaith. Yn llawer pwysicach, mae’r newid agwedd at yr iaith ymhlith trwch y boblogaeth yn rhywbeth i lawenhau ynddo.

Ond rhaid inni gydnabod yr un pryd fod yna lawer gormod o ynni wedi cael ei wastraffu’n hollti cnau gweigion. Yr ymateb mwyaf adeiladol o ddigon i’r Cyfrifiad ydi sylwadau’r Athro Harold Carter yn y rhifyn diwethaf o Golwg, lle dywed fod gormod o bwyslais ar ymgyrchu dros hawliau yn lle dros ddatblygiadau economaidd cydnaws yn yr ardaloedd Cymraeg.

Y peth pwysicaf a wna Cyfrifiad 2011 ydi cadarnhau rhai gwironeddau sydd wedi bod yn amlwg ers blynyddoedd.

  1. Dydi colledion mewn ardaloedd Cymraeg ddim yn cael eu gorbwyso gan enillion mewn ardaloedd eraill. Fu hyn erioed yn wir p’run bynnag – fedrwch chi ddim mesur y golled o gymdogaethau sy’n Cymraeg ei hiaith faint bynnag o gynnydd ar bapur a gewch yn y niferoedd sy’n siarad Cymraeg. Siawns y bydd Cyfrifiad 2011 yn fodd o ddryllio’r myth yma unwaith ac am byth.
  2. Tameidiog ar y gorau ydi llwyddiant dysgu Cymraeg mewn ysgolion. Hyd yn oed os ydi’r plant gallu ei siarad ar y pryd, mae’n amlwg fod cyfran anferthol yn ei hanghofio cyn gynted ag y maen nhw’n gadael yr ysgol. Mae’n amlwg felly nad yw ysgolion ynddyn nhw’u hunain yn ddigon i gynnal yr iaith.
  3. Rhaid i unrhyw ymdrechion dros yr iaith gael eu gwerthuso’n galed. A fydd yr hyn a geisir yn arwain at fwy o bobl yn defnyddio’r Gymraeg? Os na, mae angen cyfeirio’n hegnïon at bethau amgenach. Tasg ac iddi nod cwbl ymarferol ydi cynnal iaith a hunaniaeth, nid rhyw fath o safiad egwyddorol dros hawliau a chyfiawnder.
  4. Mae’n hen bryd rhoi cydnabyddiaeth dyledus i bwysigrwydd ardaloedd lle mae cyfran sylweddol yn siarad Cymraeg. A llai o gyfeirio nawddoglyd a di-hid at ddirywiad mewn ardaloedd “traddodiadol” Cymraeg fel petai modd creu rhyw fath o Gymru newydd Gymraeg yn y de-ddwyrain petai’r rhain yn chwalu. Mae cynnal a chryfhau ac adfer cadarnleoedd yn rhan gwbl allweddol o’r gwaith o greu Cymru ddwyieithog.
  5. Mae angen ymateb yn ddeallus pan gyhoeddir y ffigurau am ardaloedd llai. Mae’r argoelion yn awgrymu y bydd cwymp pellach yn y plwyfi gyda’r cyfrannau uchaf. Penderfyniad i’w codi nhw’n ôl fydd ei angen, nid anobeithio a darogan gwae. Os na chredwn fod modd adfer y Gymraeg yn ei chadarnleoedd does fawr o obaith gallu gwneud hynny yng ngweddill Cymru.
  6. Yn olaf, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y gogledd-orllewin i barhad y Gymraeg. Mae pob arolwg blaenorol wedi dangos mai yma y mae’r mwyaf o Gymraeg yn cael ei siarad. Er gwaethaf popeth, mae’r Cyfrifiad yn awgrymu bod darn helaeth o dir yn y gogledd-orllewin lle mae mwyafrif clir o’r boblogaeth gyffredinol a mwyafrif llethol y boblogaeth frodorol yn siarad Cymraeg. Mae cynnal hyn am fod yn gwbl allweddol os am unrhyw fath o barhad i’r Gymraeg fel iaith y mae pobl yn ei siarad yn naturiol o ddydd i ddydd.