Mae’n rhaid i’r diwydiant cig coch yng Nghymru gydweithio yn 2013 er mwyn goresgyn yr heriau a fydd yn ei wynebu yn y Flwyddyn Newydd.
Dywedodd Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru (HCC), Gwyn Howells, yn ei neges Flwyddyn Newydd i’r diwydiant cig coch yng Nghymru y bydd cydweithio rhwng yr holl sectorau yn allweddol o ran sicrhau dyfodol proffidiol i bawb.
“Mae adolygu Polisi Amaethyddol yr UE a diwallu gofynion newidiol y defnyddiwr modern ymhlith yr heriau sy’n wynebu ein diwydiant yn y flwyddyn sy’n dod.
“Ond yma yng Nghymru mae gennym ffermwyr ymroddedig sy’n gwneud eu gorau i gynhyrchu peth o’r cig gorau yn y byd a sector prosesu o’r radd flaenaf sy’n gallu goresgyn yr heriau hyn – a mwy – a dal i gyflawni ein gwaith pwysig o fwydo’r genedl.”
“Blwyddyn anodd”
Dywedodd Mr Howells fod 2012 wedi bod yn flwyddyn anodd i lawer yn y diwydiant, a bod ffermwyr defaid yn enwedig wedi dioddef oherwydd prisiau is.
“Mae wedi bod yn flwyddyn dymhestlog i’r sector defaid. Mae’r tywydd ofnadwy, y cyfraddau cyfnewid anffafriol a’r gostyngiad yng ngwerth y pumed chwarter i gyd wedi cael effaith ar y prisiau y bu ffermwyr yn eu derbyn eleni.
“Ond mae’r galw am Gig Oen Cymru yn dal i fod yn gryf a chredaf fod yna lawer o resymau dros deimlo’n hyderus ar drothwy’r Flwyddyn Newydd.”
Gobaith
“Mae trafodaethau’n parhau i agor marchnadoedd newydd yn Rwsia a Tsieina ac rydym yn gobeithio y bydd y trafodaethau hyn yn dwyn ffrwyth yn y flwyddyn sy’n dod.
“Mae yna alw cynyddol am gig o ansawdd yn nhai bwyta a thai stêcs poblogaidd Rwsia ac mae yna farchnad enfawr ar gyfer cynhyrchion pumed chwarter yn Tsieina.
“Yno hefyd mae golud cynyddol yn golygu mwy o alw am y mathau o gig gorau y gallwn eu cyflenwi.”