Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi datgan eu bwriad i gydweithio er mwyn cryfhau a datblygu’r proffesiwn cyfieithu Cymraeg/Saesneg.

Bydd y Coleg a’r Comisiynydd yn cydweithio i  greu dull addas o gefnogi a rheoleiddio’r proffesiwn cyfieithu.

Byddant yn sicrhau y bydd datblygiadau’r dyfodol yn adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes gan sefydliadau eraill yng Nghymru, gan gynnwys Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, y prifysgolion a darparwyr hyfforddiant yn y maes.

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gosod fframwaith a fydd yn cyflwyno dyletswyddau ar rai sefydliadau i gydymffurfio â safonau sy’n ymwneud â’r Gymraeg er mwyn sicrhau na fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Ac mae  Comisiynydd y Gymraeg yn credu bod proffesiwn cyfieithu cryf a phroffesiynol yn hanfodol i hwyluso sefydliadau i gydymffurfio â’r safonau hyn.

Dywedodd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg:

“Fel sefydliad rydym yn ymroddedig i hwyluso’r rhwydwaith sy’n cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg gan unigolion a sefydliadau, ac mae proffesiynoldeb y maes cyfieithu yn greiddiol i hyn.

“Gobeithiwn y bydd hyn yn dangos pwysigrwydd datblygu galwedigaethau eraill sy’n hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ac wrth gynnig gwasanaethau i’r cyhoedd.”

Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae’r Coleg wedi bod yn gweithio gyda’r prifysgolion i ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer darpariaeth addysg uwch ym maes Cyfieithu.

“Mae’r Coleg yn gweithio tuag at sefydlu Ysgol Astudiaethau Cyfieithu a fydd yn cyfuno arbenigeddau adrannau academaidd ar draws y prifysgolion, yn darparu drwy brifysgolion unigol ar draws Cymru ac yn ymateb i ofynion gweithleoedd dwyieithog.

“Yr ydym yn croesawu’r cyfle hwn i gydweithio gyda’r Comisiynydd mewn maes pwysig iawn i’r iaith Gymraeg.”