Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhybuddio y gall y glaw trwm  achosi llifogydd dros rannau o Gymru heddiw.

Mae naw rhybudd oren, sy’n rhybuddio am bosibilrwydd o lifogydd, mewn grym dros ardaloedd y de a’r dwyrain yn bennaf.

Yn ardal Bro Morgannwg mae rhybudd am Afon Ewenni, a hefyd rhybuddion am afonydd Llyfni ac Ogwr yn ardal Pen y Bont.  Mae lefelau dwr yn uchel yn yr afon Nedd yng Nghastell Nedd, a hefyd yn ardaloedd yr afonydd Cynin a Thaf yn Sir Gaerfyrddin.

Mae sawl rhybudd ledled Powys, ar afonydd yr Hafren a Gwy.

Wrth i law trwm symud ar draws  y wlad, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhybuddio gall gymaint â 40mm ddisgyn heddiw, a gall hyn effeithio ar deithwyr.

Mae trigolion yr ardaloedd hyn yn cael eu cynghori i gadw golwg ar lefelau dwr lleol ac ar ragolygon llifogydd ar gyfer yr ardal.