Guto Bebb
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi penodi Guto Bebb yn ymgynghorydd i Swyddfa Cymru ar yr iaith Gymraeg.

Dywedodd David Jones fod Aelod Seneddol Aberconwy “mewn sefyllfa wych i roi cyngor ynghylch y materion y mae siaradwyr Cymraeg yn eu hwynebu a rhoi cyngor ynghylch beth all y Llywodraeth ei wneud i wella ei gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.”

“Fel rhywun sy’n siarad Cymraeg, rwy’n deall yn iawn pa mor bwysig yw’r iaith i’n hunaniaeth a’n diwylliant,” meddai David Jones.

Mewn trafodaeth yn San Steffan fis diwethaf dywedodd Guto Bebb fod angen edrych ar ddarpariaeth Gymraeg adrannau Llywodraeth Prydain, a dadleuodd fod Mesur Iaith y Cynulliad 2011 yn wannach na Deddf Iaith 1993 am nad oedd yn goruchwylio adrannau Llundain.

Wrth dderbyn y swydd heddiw dywedodd Guto Bebb  ei fod yn “edrych ymlaen at weithio efo’r Ysgrifennydd Gwladol ac i roi cyngor i Adrannau’r Llywodraeth.”

“Gyda’r cyhoeddiad am safonau’r Gymraeg mae’n hollbwysig bod Swyddfa Cymru’n cymryd rhan lawn yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau cymesur yn Whitehall, ac rwy’n falch iawn o fod wedi cael cynnig y cyfle yma i weithio gyda’r Ysgrifennydd Gwladol ar y materion pwysig hyn,” meddai Guto Bebb.

Mae Swyddfa Cymru eisoes wedi cadarnhau bwriad i gael aelod o staff Comisiynydd y Gymraeg i weithio yn Swyddfa Cymru.