Rowan Williams
Mae Archesgob Caergaint wedi apelio am roi ddiwedd ar ledu stereoteips ynglyn â hen bobol.

Mae Rowan Williams yn dweud fod y darlun negyddol o bensiynwyr yn gallu arwain at gam-drin.

Yn ei araith ola’ yn Nhy’r Arglwyddi ddoe, fe adroddodd Rowan Williams sut y mae agweddau “amharchus a diamynedd” tuag at henoed yn arwain at nifer o fathau gwahanol o gam-drin – o siarad yn nawddoglyd efo nhw, i fod yn ddiamynedd, neu hyd yn oed gam-drin corfforol.

Cyfeiriodd at amcangyfrifon diweddar fod hyd at chwarter hen bobol gwledydd Prydain yn cael eu cam-drin mewn rhyw ffordd, a galwodd am apwyntio Comisiynydd Pobol Hŷn, fel sydd gan Gymru.

“Yn rhy aml, r’yn ni’n awyddus i weld plant yn tyfu lan yn rhy gyflym. Ac r’yn ni eise i bobol hŷn gario ymlaen fel rhan o’r peiriant, neu dderbyn rhyw rôl ymylol; yn cael eu diodde’ ond heb gael eu gwerthfawrogi.

“Yn y cyfamser, r’yn ni’n edrych ar ein watshys, yn disgwyl iddyn nhw fynd, yn disgwyl am yr amser y gallwn ni olchi’n dwylo o’r cyfrifoldeb amdanyn nhw.

“R’yn ni’n fodlon derbyn agweddau ecsentrig iawn ynglyn â sut y gallwn ni fyw bywyd da, rhwng tua 18 a 40 oed,” meddai Rowan Williams wedyn.

“Ond mae hynny’n cymryd yn ganiataol fod pob hen berson yn mynd i eistedd yn y gornel yn dawel…”